Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth blaenllaw yn y sector. Mae sefydliadau brocera gwybodaeth – neu sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth – yn gweithredu fel dolen rhwng ymchwil academaidd a llunwyr polisi. Mae WCPP yn gweithredu ar lefel seiliedig ar leoedd er mwyn helpu i wella’r ffordd y defnyddir tystiolaeth gan lunwyr polisi ac ymarferwyr lleol a chenedlaethol ledled Cymru.
Elfen unigryw o WCPP fel sefydliad brocera gwybodaeth yw bod gennym raglen ymchwil ac effaith benodedig, sy’n sicrhau ein bod yn adfyfyrio ac yn dysgu’n barhaus o’n dull o hwyluso defnyddio gwybodaeth – beth rydym yn ei wneud, pam a beth yw’r effaith – ac yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd â phobl eraill.
Mae ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar wahaniaethau cymharol yn rôl sefydliadau broceru gwybodaeth (pam maen nhw’n cael eu creu a beth maen nhw’n ei wneud), dulliau ac agweddau mewn cysylltiad â hwyluso defnyddio gwybodaeth, a sut i ddiffinio, cofnodi ac arddangos effaith broceru gwybodaeth a hwyluso defnyddio gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn cyfrannu tuag at well polisi a chanlyniadau cymdeithasol.
Os ydych yn lluniwr polisi, ymarferydd neu academydd sy’n chwilio am dystiolaeth am rôl, ymarfer ac effaith brocerwyr gwybodaeth a hwyluso defnyddio gwybodaeth, anfonwch ebost atom drwy info@wcpp.org.uk.
 
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                           
                          