Prof Dan Bristow

Yr athro Dan Bristow

Athro Ymarfer yw Dan Bristow. Mae’n arwain gweithgareddau arloesi ac ymgysylltu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gyfosod a pharatoi tystiolaeth ymchwil ar gyfer Gweinidogion Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Yn Gyd-ymchwilydd ac yn Gyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae wedi helpu i sefydlu dull arobryn wedi’i arwain gan y galw o baratoi tystiolaeth ymchwil. Mae hynny wedi cynnwys dylunio a chyflwyno model sy’n helpu Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y sector cyhoeddus i weld y dystiolaeth orau sydd ar gael, ei deall a’i defnyddio.

Dan hefyd yw Cyd-arweinydd Cydweithfa Ymchwil ar Faterion Iechyd Rhondda Cynon Taf y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal – buddsoddiad gwerth £5 miliwn a fydd yn creu seilwaith newydd i gysylltu ymchwil â pholisi ac ymarfer ac yn dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd trigolion Rhondda Cynon Taf.

Dechreuodd ei yrfa’n gweithio yng ngwasanaeth sifil y DU ac mewn sefydliadau yn y trydydd sector. Yn ystod y degawd diwethaf, mae wedi gweithio ar ryngwyneb tystiolaeth academaidd a pholisi cyhoeddus / gwneud penderfyniadau yn y sector cyhoeddus.

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

02920870325

dan.bristow@wcpp.org.uk

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.