Uncategorized @cy

Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth

Er bod diweithdra'n isel yng Nghymru ar hyn o bryd o gymharu â'r degawdau diwethaf, mae anweithgarwch economaidd oherwydd salwch yn dal i fod yn uchel, ac mae ein hadroddiad diweddaraf yn rhoi tystiolaeth o'r ffyrdd y gellir mynd i'r afael â hyn drwy ganolbwyntio ar strwythurau a phrosesau partneriaethau.

Y mathau mwyaf cyffredin o salwch sy'n effeithio ar allu unigolyn i aros yn y gwaith yw iechyd meddwl gwael ac anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae'r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth o'r ffyrdd y gall sefydliadau gydweithio'n fwy effeithiol i naill ai leihau nifer y bobl sy'n gadael gwaith oherwydd y problemau hyn neu gynyddu nifer y bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl salwch.

Mae'r prif negeseuon yn yr adroddiad yn ymwneud â'r ffordd y gellir prif ffrydio'r gwersi sy'n cael eu dysgu o'r dystiolaeth yn rhan o ddulliau asiantaethau rhanddeiliaid o gydweithio er mwyn newid arferion gwaith a gwella canlyniadau yn yr hirdymor.

Y brif wers o'r dystiolaeth yw pwysigrwydd cyd-gynhyrchu ymyriadau â'r holl bartneriaid perthnasol sy'n rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf; drwy nodi'r problemau, yr atebion a phwy sy'n gyfrifol ar bob cam. Drwy weithredu yn y ffordd hon, gall gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cyflogaeth a chyflogwyr gytuno ar ganlyniadau ar y cyd, deall safbwyntiau ei gilydd a chael eu dwyn i gyfrif am bob cam o'r broses.

Y neges arall i lunwyr polisi yw pwysigrwydd cadw at bob agwedd ar ymyriadau llwyddiannus. Mae llawer o enghreifftiau o ymyriadau llwyddiannus sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, sy'n cynnwys nifer o gamau ac sy'n gofyn am gefnogaeth barhaus. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y modelau hyn wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn yr ardaloedd a oedd wedi'u mabwysiadu'n fanwl. I'r gwrthwyneb, gwelwyd canlyniadau llai cadarnhaol mewn ardaloedd a oedd wedi ceisio mabwysiadu dim ond rhai o elfennau'r ymyriadau.

Felly, mae ymyriadau effeithiol a chynnar a gyd-gynhyrchwyd drwy ddefnyddio tystiolaeth sy'n bodoli eisoes a chadw at enghreifftiau sicr o'r hyn sy'n gweithio yn hollbwysig i'r agenda hon.

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar gais.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.