Gyda brechlynnau effeithiol ar gyfer COVID-19 bellach yn realiti, mae’r meddwl nawr yn troi at y ffyrdd gorau i ymadfer o'r ergydion economaidd a chymdeithasol tymor hirach a achoswyd gan y pandemig. Byddwn yn byw gydag adladd y pandemig am beth amser, gyda goblygiadau difrifol i'n heconomi, system addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chyllid cyhoeddus.
Amlygodd y pandemig anghydraddoldebau oedd eisoes yn bodoli mewn canlyniadau iechyd ond hefyd gwelwyd gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb gydag egni a hyblygrwydd i argyfwng iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg. Yr her fydd harneisio'r un creadigrwydd ac ymrwymiad i ail-adeiladu'n ôl yn well a chreu Cymru decach, fwy llewyrchus a gwyrddach.
Mae'r papurau hyn yn cyflwyno canfyddiadau chwe briffiad a gomisiynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - Jeremy Miles AS, i lywio a herio syniadau cynnar Llywodraeth Cymru ynghylch ymadfer o'r pandemig.
Roedd y briffiadau'n canolbwyntio ar bynciau a ddewiswyd gan Weinidogion ac a helpodd i fframio a llywio gwaith Grŵp Arbenigol a gyfarfu â'r Gweinidog rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020. Bwydodd casgliadau'r grŵp i drafodaethau'r Cabinet am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.
Y prif bynciau a drafodwyd yn ein papurau a'u prif negeseuon yw: