Datgelwyd yn ein hadolygiad Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol bod mynd i'r afael â stigma yn un o’r blaenoriaethau allweddol i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi. Yn 2023, dechreuom raglen waith i archwilio sut gellir cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi. Fel rhan o hyn, adolygwyd gwaith ymchwil sy’n bodoli eisoes a chafwyd trafodaethau â gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr ac arbenigwyr sydd â phrofiad uniongyrchol drwy gyfres o weithdai. Mae crynodeb o’r hyn a ddysgwyd o’r gyfres o weithdai ar gael mewn adroddiad ar wahân.
Mae’r briff ar bolisi yn crynhoi prif negeseuon ein hadolygiad desg cychwynnol o waith ymchwil presennol sy’n edrych yn benodol ar yr hyn sy’n achosi stigma ynghylch tlodi, ei effaith, a’r hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael ag ef. Mae’n amlygu tystiolaeth sy’n dangos bod stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, allgáu cymdeithasol, a defnyddio llai ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill. Rydym yn trafod y prif ganfyddiadau o'r briff yn fras isod.
Prif ganfyddiadau
- Mae stigma ynghylch tlodi yn gymhleth ac yn amlhaenog, ac mae’n digwydd ar sawl lefel o gymdeithas – o lefelau rhyngbersonol i rai strwythurol.
- I bobl sy’n byw mewn tlodi, gall y stigma ynghylch tlodi mewn cymdeithas arwain at deimlo cywilydd, teimlo ar wahân a theimlo’n israddol – gan arwain at iechyd meddwl gwael. Gall hefyd gyfyngu ar gyfraniad cymdeithasol pobl a’u mynediad at gymorth a gwasanaethau hollbwysig.
- Mae stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig â phedair agwedd ar iechyd meddwl gwael; diffyg hunan-barch, ynysigrwydd cymdeithasol, cywilydd, ac afiechyd meddwl.
- Rydym yn nodi pedwar prif fecanwaith sy’n creu stigma ynghylch tlodi:
- Dyluniad polisi sy’n stigmateiddio;
- Gwasanaethau a phrosesau i chwilio am gymorth sy’n fiwrocrataidd, yn feirniadol a/neu’n iselhau pobl;
- Naratifau mewn gwleidyddiaeth ac yn y cyfryngau sy’n gwahaniaethu, yn stereoteipio ac yn difrïo pobl, grwpiau neu leoedd incwm isel;
- Rhagfarn ac agweddau cymdeithasol strwythurol ehangach.
- Mae tystiolaeth o’r ‘hyn sy’n gweithio’ i fynd i'r afael â stigma ynghylch tlodi yn dal i ddod i’r amlwg, ond mae’n awgrymu y gallai dulliau fel y canlynol fod yn addawol ac yn werth chweil: cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi yn y broses o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau; dulliau fel incwm sylfaenol a throsglwyddiadau arian; ymgyrchoedd mewn ymchwil ac ar y cyfryngau i fynd i’r afael â naratifau ac ymdriniaeth niweidiol; newid yr iaith sy’n stigmateiddio a ddefnyddir mewn rhaglenni cymorth; a hyfforddiant ar gymhwysedd diwylliannol.