Mae Dr Matt Dickson yn Ddarllenydd mewn Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Ymchwil Polisi (IPR) ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae Sue Maguire yn Athro Anrhydeddus yn yr IPR ym Mhrifysgol Caerfaddon. Bu i’w gwaith ymchwil ar godi oedran cymryd rhan mewn addysg i 18 oed gael ei gyhoeddi’n ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Mae'n ofynnol i bob person ifanc yn y DU aros yn yr ysgol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fyddant yn codi’n 16 oed. Ers 2015, mae deddfwriaeth wedi bod yn Lloegr sy'n nodi y dylai pobl ifanc aros mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant tan y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed.1 Hyd yma, ni ddilynwyd y cyfeiriad polisi hwn yng Nghymru, yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r IPR wedi cydweithio'n ddiweddar â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i edrych ar effeithiau codi'r oedran cyfranogi (raising the participation age, RPA) yn Lloegr ac mewn gwledydd eraill ledled y byd lle mae polisïau tebyg wedi'u cyflwyno. Yna, asesodd y prosiect hwn effaith debygol gweithredu polisi tebyg yng Nghymru ar addysg ôl-16 neu ar gyfraddau cyfranogiad, cadw a chyrhaeddiad.
Mae tystiolaeth sy’n awgrymu y bydd gwella cyfraddau cyfranogi mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 yn fuddiol i bobl ifanc, i’r economi ac i’r gymdeithas yn ehangach. At hynny, mae corff mawr o ymchwil wedi sefydlu bod cynnydd blaenorol yn yr oedran isaf er mwyn gadael yr ysgol yn y DU (ac yn rhyngwladol) wedi arwain at gynnydd yn lefelau cyrhaeddiad, cymwysterau ,enillion a sgiliau, yn ogystal â gwella iechyd a lleihau cyfraddau marwolaethau, beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau a throseddau ieuenctid.
Tan i RPA gael ei fabwysiadu yn Lloegr, yn 1972 y cafwyd y newid sylweddol diwethaf i ofynion addysg yn y DU. Pan godwyd yr oedran gadael ysgol (raising of the school leaving age, RoSLA) bryd hynny, codwyd yr oedran roedd pobl ifanc yn cael gadael yr ysgol o 15 i 16 oed. Fodd bynnag, mae tri gwahaniaeth sylfaenol rhwng RPA a RoSLA 1972:
- Nid yw RPA yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ifanc aros mewn dysgu amser llawn yn yr ysgol ac mae'n cynnig yr hyblygrwydd i gyfuno gwaith â hyfforddiant a dysgu’n rhan-amser. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach gweithredu ac olrhain y cynllun, o ystyried y gwahanol opsiynau a llwybrau y gall pobl ifanc eu dewis. Mae hefyd yn gofyn am gydweithrediad a monitro amrywiaeth eang o ddarparwyr addysg a hyfforddiant, ac o gyflogwyr. I'r gwrthwyneb, roedd RoSLA yn gymharol syml, er ei fod yn gostus, gan ei bod yn ofynnol i bob person ifanc aros yn yr ysgol tan ei fod yn 16 oed.
- Mae'r cyfnodau gweithredu a'r dyraniadau cyllid yn wahanol iawn. Roedd sylfeini RoSLA yn Neddf Addysg 1944, gydag oedi o 28 mlynedd cyn iddo gael ei weithredu, oherwydd y gost i'r pwrs cyhoeddus, o ran adeiladau ysgol newydd a'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen i gefnogi newidiadau o'r fath.2 Roedd cynlluniau ar gyfer RPA yn rhan o Ddeddf Addysg a Hyfforddiant 2008 ac fe'u deddfwyd yn Lloegr yn 2013 i gynnwys pob plentyn 17 oed, cyn cael eu hestyn yn 2015 i bob person ifanc tan ei ben-blwydd yn 18 oed, h.y. roedd yr amserlen yn fyr iawn. Hefyd, nid oedd mwy o fuddsoddiad yn dod gyda RPA, gyda'r awdurdodau lleol yn cael cyfarwyddyd i dalu costau darparu addysg ychwanegol ac i fonitro'r nifer a oedd yn manteisio o’u cyllidebau cyffredinol presennol.
- Er bod methu cydymffurfio â deddfwriaeth RoSLA wedi arwain at erlyn rhieni/gofalwyr yn droseddol, nid oes unrhyw gosbau ar hyn o bryd yn cael eu rhoi i bobl ifanc, i’w rhieni/gofalwyr nac i gyflogwyr am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr RPA yn Lloegr.
Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effeithiau llawn RPA yn Lloegr ar ganlyniadau economaidd ac addysgol ehangach, gallwn weld yr effaith ar gyfraddau cyfranogiad ôl-16.
Er bod cyfraddau cyfranogiad ôl-16 mewn ysgolion wedi codi ers i RPA gael ei weithredu, mae hyn wedi cyd-fynd â chwymp yn nifer y bobl ifanc sy'n ymgymryd â phrentisiaethau neu fathau eraill o hyfforddiant galwedigaethol, fel mai prin yw’r newid yn y niferoedd nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant.
Felly, os mai nod y polisi yw ymgysylltu o’r newydd â'r rhai sy'n gadael y system addysg ar ôl cyrraedd 16 oed a chodi cyfran y garfan ysgol sy'n dal ati mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant, nid yw hyn wedi'i gyflawni eto.
Efallai nad yw'n syndod ychwaith fod yr adolygiad o lenyddiaeth ryngwladol a wnaed yn y prosiect hwn wedi canfod mai gwan yw’r dystiolaeth i gefnogi gweithredu RPA yng Nghymru. Mae dyluniad polisi, costio ac amseru RPA, o'i gymharu â newidiadau hanesyddol RoSLA, yn wahanol iawn ac yn helpu i egluro pam mae eu canlyniadau’n cyferbynnu.
Felly'r cwestiwn o hyd yw beth gallai'r polisi ei gyflawni, o ran canlyniadau gwell, petai’n cael gefnogi gan gyllid digonol a darpariaeth ychwanegol. Dyma lle y gall y dadansoddiad meintiol, a wnaed yn rhan o'r prosiect hwn, daflu rhywfaint o oleuni.
Modelu'r effaith bosibl
Heb sylfaen dystiolaeth gref sy'n ymwneud yn benodol â RPA (yn hytrach na RoSLA), nid yw'n glir beth dylem ddisgwyl iddo ddigwydd yng Nghymru, os caiff yr oedran cyfranogi ei godi i 18.
Felly, rhaid inni adeiladu model ar gyfer effaith RPA sy'n ystyried nifer y bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio, yr hyn y byddent yn dewis ei wneud, beth y byddent yn ei gyflawni a beth fyddai'r enillion economaidd hirdymor ar eu cyraeddiadau.
Er mwyn gweithredu'r model, mae angen i ni wneud tybiaethau ar gyfer pob un o'r camau modelu hyn. Mae hyn yn golygu, er y gallwn ddewis cyfres o dybiaethau am baramedrau’r model sy'n gwneud y synnwyr mwyaf yn ein barn ni – ein 'senario canolog' – nid oes sicrwydd, a gall prisio terfynol budd economaidd gros y polisi newid yn eithaf sylweddol os byddwn yn newid y tybiaethau modelu.
Mae Ffigur 1 yn dangos y tybiaethau a wnawn ar gyfer pob cam o'r model yn ein ‘senario canolog’.
Ffigur 1: Camau modelu, rhagdybiaethau sylfaenol a rhagdybiaethau a ddewiswyd ar gyfer y senario modelu canolog
Yr allwedd i ddeall yr effaith bosibl ar gyfranogiad a manteision economaidd tymor hwy y polisi, yw i ba raddau y mae cyfranogiad yn cynyddu, h.y. graddau'r cydymffurfio. Mae'r dystiolaeth betrus o Loegr yn awgrymu lefel isel iawn o gydymffurfio, o ystyried nad yw cyfran gyffredinol pob carfan mewn addysg neu hyfforddiant wedi newid mewn gwirionedd. Rydym yn tybio bod gan y polisi gyfradd gydymffurfio o 30%, sydd efallai’n eithaf ceidwadol o ystyried profiad Lloegr.
Ar hyn o bryd, o ystyried yr opsiynau presennol, dewis cyntaf y bobl ifanc sy'n gadael y system yn 16 oed yw rhoi'r gorau iddi, felly nid ydym yn gwybod beth y byddent yn ei ddewis petai disgwyl iddynt aros mewn addysg a hyfforddiant. Felly, rydym yn tybio y byddai'r cyfranogwyr ychwanegol yn cael eu dosbarthu ar draws y llwybrau canlynol:
- cymwysterau is na TGAU
- TGAU neu gymwysterau academaidd lefel 2 eraill
- cymwysterau galwedigaethol lefel 2
- Safon Uwch neu gymwysterau academaidd lefel 3 eraill
- cymwysterau galwedigaethol lefel 3
- cymysgedd o lefelau a mathau o gymwysterau yn yr un cyfrannau â myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn wirfoddol ac sydd â chyrhaeddiad blaenorol a nodweddion cefndir economaidd-gymdeithasol tebyg
Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy'n parhau'n wirfoddol mewn addysg yn debygol o fod yn wahanol mewn ffyrdd nad ydynt wedi’u harsylwi i'r rhai a fyddai, o gael dewis, yn gadael. Felly, rydym yn rhagdybio bod cyfranogwyr newydd yn cyflawni ar gyfradd is, yr amcangyfrifir ei bod yn ddwy ran o dair o gyfradd cyflawni myfyrwyr presennol sydd â nodweddion tebyg.
Yn yr un modd, gall yr enillion ar gymwysterau fod yn is i'r cyfranogwyr sy'n gorfod aros oherwydd RPA ac felly cyfrifir bod eu gwerth yn 50% o'r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer y rhai hynny sy’n dilyn yr un cymwysterau fel eu dewis cyntaf.
Mae rhoi hyn i gyd at ei gilydd yn ein galluogi i amcangyfrif faint o gymwysterau ychwanegol a fyddai'n cael eu cyrraedd yn ychwanegol at yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl heb RPA, yn ogystal â gwerth gostyngol y cymwysterau hyn gydol oes.
O dan y senario canolog, amcangyfrifwn y byddai'n effeithio ar tua 3% o garfan ym mlwyddyn 12 (tua 900 o fyfyrwyr) petai RPA yn cael ei weithredu yng Nghymru, a dwbl y nifer hwnnw ym mlwyddyn 13. Amcangyfrifir mai gwerth economaidd ychwanegol gydol oes y cyraeddiadau y byddai'r cyfranogwyr newydd hyn yn eu cael o dan ein senario canolog yw tua £36m y garfan. Mae hyn yn gynnydd o 1.4% yng nghyfanswm gwerth gydol oes y cymwysterau y byddem yn eu disgwyl gan garfan heb RPA. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol iawn ar lefel y cydymffurfio â'r polisi, yn amrywio o £168m os llwyddir i gael cydymffurfio llawn i £8m os mai dim ond 5% o ddarpar gyfranogwyr sy'n cwblhau blwyddyn 12 a blwyddyn 13 mewn gwirionedd.
Mae'r amcangyfrifon hefyd yn amrywio os byddwn yn newid y tybiaethau ar gamau eraill y modelu. O'r herwydd, wrth bennu’r cydymffurfio ar 30%, cawn ystod gredadwy o werthoedd o £25m i £102m fesul carfan, yn dibynnu ar yr hyn rydyn yn ei dybio am y llwybrau a ddilynir, y cyfraddau cyrhaeddiad a gwerth economaidd hirdymor y cyraeddiadau ychwanegol.
Hefyd, mae'n bwysig nodi bod yr amcangyfrifon yn rhoi'r gwerth ychwanegol ar ben yr hyn y byddem yn disgwyl ei gyflawni heb y polisi, ond nad ydynt yn ystyried costau darparu'r addysg a'r hyfforddiant ychwanegol. Yn ogystal, nid ydym yn ystyried y gwerth ehangach posibl i’r gymdeithas o gael mwy o gyfranogiad o ran iechyd, lles, cynhwysiant cymdeithasol a llai o droseddu.
Casgliadau
O ystyried y dystiolaeth ansoddol a meintiol, rydym yn dod i'r casgliad y byddai gweithredu RPA yn creu manteision cyfyngedig i bobl ifanc yr effeithir arnynt, h.y. pobl ifanc sy'n gorfod cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant y tu hwnt i flwyddyn 11.
Byddai unrhyw fanteision economaidd o weithredu RPA yn dibynnu'n fawr ar faint o gydymffurfio sydd â'r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir yn yr adroddiad meintiol, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio â darparu opsiynau i'r bobl ifanc hynny y mae’r polisi'n eu targedu, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16, yn arwain at gydymffurfio ar lefel isel, cyraeddiadau ychwanegol bach a manteision economaidd bach yn gymesur â hyn.
Beth yw'r dewisiadau eraill?
Mae defnyddio profiad gwledydd eraill yr OECD, ac ystyried y dadansoddiad ansoddol a meintiol ar gyfer Cymru, yn arwain at yr argymhellion canlynol:
- darparu cynnig ôl-16 cydlynol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru
- canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen ôl-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar
- cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i’r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus
- darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy’n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Mae cynnig llwybrau o ansawdd da i bob grŵp o ddysgwyr wrth iddynt nesáu at ddiwedd addysg orfodol yn allweddol i gael cyfraddau dysgu ôl-16 gwell. Nid yw'r dadansoddiad meintiol wedi'i gyfyngu i RPA ond yn hytrach mae'n rhoi syniad o'r math o enillion economaidd a allai fod ar gael i unrhyw bolisi sy'n llwyddo i gynnwys mwy o bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 amser llawn ac sy’n cefnogi’r nod o’u cadw a’r cymwysterau y maent yn eu cael.
Yn hollbwysig, os ydym am fynd i'r afael ag anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16 pob grŵp o bobl ifanc, rhaid inni edrych y tu hwnt i'r maes dysgu amser llawn. Rhaid deall a mynd i'r afael yn well ag anghenion gweithwyr ifanc ôl-16, yn enwedig y rhai sy'n methu cymryd rhan ar hyn o bryd mewn unrhyw fath o ddysgu ôl-16 achrededig ac sy'n agored i lwybrau 'gwaith gwael'. Hefyd, mae mater blinderus nodi a diwallu anghenion pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn parhau i fod yn her bolisi barhaus y mae’r pandemig wedi'i gwaethygu.
Wrth symud ymlaen, gellid dadlau nad yw erioed wedi bod yn bwysicach inni gael y cynnig i ddysgwyr ôl-16 yn gywir, er mwyn galluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial, i'w helpu i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’r gymdeithas ehangach ac i helpu yn yr her o ailadeiladu'r economi.
Mae'r holl erthyglau a bostiwyd ar y blog hwn yn rhoi barn yr awdur(on), ac nid safbwynt yr IPR, na Phrifysgol Caerfaddon. Cewch ragor o wybodaeth yma am ymchwil IPR ar ehangu cyfranogiad ym myd addysg uwch.