Beth sydd ei angen i arwain sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth?

Mae’r Athro Steve Martin, a fu’n gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am ddeng mlynedd gyntaf y ganolfan, yn taflu goleuni ar ei ymchwil cynnar i’r hyn sydd ei angen i arwain y sefydliadau hyn – a sut y gellid defnyddio’r dysgu hwn i helpu arweinwyr mentrau ymgysylltu polisi academaidd yn y dyfodol.

Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o’r rôl allweddol y gall sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth ei chwarae wrth annog polisi ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn rhyfeddol, o ystyried mai eu cenhadaeth yw hyrwyddo’r defnydd o dystiolaeth, cymharol ychydig a wyddom o hyd am yr hyn sy’n gwneud sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth yn effeithiol. Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod arweinyddiaeth yn ffactor allweddol yn eu llwyddiant, ond nid oes gennym ddealltwriaeth glir o ble y daw arweinwyr sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth, beth maent yn ei wneud, na’r offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer y swydd.

Fel cam cyntaf i fynd i’r afael â’r bwlch hwn, yn ddiweddar cynhaliais gyfres o sgyrsiau manwl, un-i-un ag arweinwyr rhai o sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth amlycaf y DU, gan gynnwys wyth canolfan What Works, arsyllfa a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a thair canolfan dystiolaeth ranbarthol sy’n gweithio gydag awdurdodau maerol cyfun. Cytunodd pob arweinydd yn garedig i roi disgrifiad gonest o’u llwyddiannau, eu methiannau a’u rhwystredigaethau, a’r hyn a gafwyd oedd darlun hynod ddiddorol o’r hyn sy’n eu hysgogi, y rolau y maent yn eu cyflawni, a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Mae’r sefydliadau y maent yn eu harwain yn amrywio’n sylweddol o ran tarddiad, hirhoedledd, ffocws, staffio, cyllid, a strwythurau llywodraethu. Mae rhai wedi bod yn gweithredu ers dros ddegawd, tra mae eraill yn llai na phum mlwydd oed. Mae rhai yn elwa ar waddolion aml-flwyddyn gwerth miliynau o bunnoedd, ac yn cyflogi timau mawr o hyd at 100 o staff, tra mae eraill yn dibynnu ar grantiau cyfnod penodol byrrach, a chanddynt lai na deg o weithwyr llawn amser. Mae rhai yn canolbwyntio ar wasanaethau, sectorau, neu broffesiynau penodol, tra mae eraill yn seiliedig ar leoliad neu’n mynd i’r afael â materion trawsbynciol. Daw eu harweinwyr hefyd o ystod amrywiol o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol. Roedd y rhan fwyaf wedi gweithio mewn rhyw fath o rôl ymchwil neu bolisi yn gynnar yn eu gyrfaoedd, ond dim ond hanner oedd â PhD, a dim ond dau oedd â phrofiad blaenorol fel prif weithredwr. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, roedd profiadau’r arweinwyr o arwain sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth yn drawiadol o debyg.

Roeddent wedi’u huno gan ymdeimlad cryf o genhadaeth a’u cymell gan gred yng ngrym tystiolaeth i wella polisi a/neu ymarfer. Buont yn siarad mewn modd tebyg am y cyfuniad o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i weithredu ar draws ffiniau sefydliadol ac yn y gofodau anffurfiol rhwng y byd academaidd a llywodraeth. Amlygwyd yr angen i allu gwerthuso cywirdeb tystiolaeth, gan fod mewn cytgord â naws a blaenoriaethau newidiol y cyd-destunau gwleidyddol a pholisi y maent yn gweithio ynddynt ar yr un pryd. Mae angen iddynt fod yn strategwyr medrus sy’n gallu datblygu a chyfathrebu blaenoriaethau clir, yn rheolwyr staff a chyllidebau, ac yn godwyr arian medrus. Yn ogystal, rhaid iddynt feddu ar amrywiaeth o ‘sgiliau meddal’ i feithrin a chynnal hygrededd ac ymddiriedaeth gydag uwch academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr, cyllidwyr, a llu o randdeiliaid eraill.

Amlygwyd hefyd bwysigrwydd gallu ‘gwneud i bethau ddigwydd’ er gwaethaf rhwystrau sefydliadol sylweddol. Bu sawl un yn rhan allweddol o greu’r sefydliadau y maent bellach yn eu harwain – yn cydnabod yr angen, yn darbwyllo eraill ohono, ac yn sicrhau cyllideb i’w wireddu. Disgrifiodd eraill drafodaethau cymhleth gyda chyllidwyr, sefydliadau cynnal, a rhanddeiliaid eraill, a oedd yn aml yn gofyn am feddwl a gweithio y tu allan i reolau a phrosesau sefydliadol safonol.

Mae’r gallu i addasu yn hanfodol. Rhaid i arweinwyr ragweld ac ymateb yn gyflym i anghenion a disgwyliadau newidiol rhanddeiliaid a bod yn gyfforddus ag ansicrwydd ac amwysedd. Rhaid iddynt hefyd ymdopi â’r trosiant cyson o staff yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, a sefydliadau partner eraill.

Yn olaf, mae angen iddynt fod yn wydn. Rhoddodd yr arweinwyr y cwrddais â nhw ddisgrifiad o’r pwysau sy’n deillio o lwythi gwaith trwm, yr angen i fodloni gofynion cystadleuol gwahanol rhanddeiliaid, a phwysigrwydd cyflawni canlyniadau cyflym i sicrhau cyllid parhaus. Mae’n rhaid iddynt hefyd gymell eu hunain a chodi ysbryd y tîm pan fydd tystiolaeth y maent wedi gweithio’n galed i’w chynhyrchu a’i chyfleu yn cael ei hanwybyddu gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’r cyfuniad yma o sgiliau yn gwneud y rôl yn ddiddorol ond hefyd yn anarferol a heriol. Doedd bron dim un o’r arweinwyr y siaradais â nhw wedi gwerthfawrogi ehangder a chymhlethdod hyn yn llawn cyn ymgymryd â’u rolau. Dywedodd y rhan fwyaf eu bod yn ‘dysgu yn y swydd’ ac yn cael trafferth gyda rhai agweddau ar y gwaith. Roedd yr heriau yr oeddent wedi’u hwynebu a’r camgymeriadau yr oeddent wedi’u gwneud yn amrywio yn ddibynnol ar eu profiad blaenorol a natur eu sefydliad, ond yr un oedd y neges sylfaenol: sef bod prinder pobl sy’n barod i arwain sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth ac sy’n gallu gwneud hynny, bod prinder hyfforddiant neu ddatblygiad ar gyfer darpar arweinwyr y dyfodol, ac nad oes llwybr gyrfa sefydledig.

Hoffwn awgrymu tair ffordd o ymateb i’r canfyddiadau hyn. Yn gyntaf, gallem wneud llawer mwy – am ychydig iawn o gost – i annog a galluogi arweinwyr presennol sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth i rannu eu profiadau â’i gilydd a’r byd ehangach. Maent yn gweithio ar eu pen eu hunain ar hyn o bryd, gyda phob arweinydd yn darganfod eu hatebion eu hunain i heriau sy’n aml yr un fath, neu’n debyg iawn, i bawb. Yn ail, dylem ddefnyddio profiadau’r arweinwyr hyn i lywio’r gwaith o gynllunio mentrau ymgysylltu â pholisi ymchwil yn y dyfodol. Byddai’n ddefnyddiol ymgynghori â nhw yn fuan yn y broses am yr hyn y maent wedi’i ddysgu a beth allai weithio’n well yn y dyfodol. Yn drydydd, mae angen i ni sicrhau ‘arfaeth’ arweinwyr y dyfodol. Cynigiaf ein bod yn canolbwyntio ar fentora un-i-un a chymorth cymheiriaid sydd wedi’i deilwra i anghenion unigolion, bylchau sgiliau, a dyheadau, yn hytrach na hyfforddiant ffurfiol. Dylai llywodraethau, prifysgolion a chyllidwyr ymchwil i gyd gefnogi hyn oherwydd byddant i gyd yn elwa o greu sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth cryf ac effeithiol sy’n cael eu harwain yn dda, ac sy’n cefnogi polisi ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

 

Cydnabyddiaeth

Rwy’n ddiolchgar i arweinwyr sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth am gytuno i gwrdd â mi. Diolch am eich amser, am y gwaith ysbrydoledig yr ydych yn ei wneud, ac am rannu eich profiadau gyda’r fath onestrwydd a threiddgarwch.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.