Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu canfyddiadau ein Cymrodoriaeth Polisïau UKRI mewn gweminar amser cinio a gynhelir mewn partneriaeth â Swyddfa Gabinet y DU.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed am ein hymchwil i ystyried sut mae arbenigwyr â phrofiad bywyd yn gallu cymryd rhan yn ystyriol wrth baratoi gwybodaeth sy’n helpu i lunio polisi ac ymarfer.
Yn seiliedig ar gyfweliadau â Chanolfannau What Works a chanolfannau tystiolaeth eraill, adolygiad bwrdd gwaith cyflym, ac ymchwil fyfyriol o fewn dwy ganolfan What Works, byddwn ni’n rhannu syniadau ynglŷn â:
• Gwerth cynnwys arbenigwyr profiad bywyd wrth baratoi gwybodaeth
• Penderfynu a ddylid mabwysiadu’r dull hwn ai peidio
• Eglurder ynglŷn â bwriad, rôl a lefel y cyfranogiad
• Sut y gallwn gydweithio ag arbenigwyr profiad bywyd
• Risgiau, heriau a goresgyn y rhain