Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn archwilio sut y gellir defnyddio tystiolaeth i helpu llywodraethau lleol i fynd i’r afael ag argyfwng llety dros dro Cymru.
I wneud hyn, rydym yn cynnal gweithdy ar-lein ac yn lansio galwad agored fel y gall awdurdodau lleol gyflwyno datganiadau o ddiddordeb am gymorth ar gyfer tystiolaeth gan WCPP. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am hyn yn ystod y gweithdy ac yn esbonio sut y gall awdurdodau lleol gydweithio â WCPP i ddefnyddio tystiolaeth i fynd i’r afael â heriau allweddol sy’n gysylltiedig â llety dros dro.
Cefndir
Mae digartrefedd yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel ers amser, gyda ffigurau 2024/25 yn dangos mai nifer yr aelwydydd a aseswyd fel rhai digartref (y mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i helpu i sicrhau llety ar eu cyfer) oedd 13,287. Yn rhan o’r argyfwng hwn mae’r cynnydd yn y galw am lety dros dro ar gyfer unigolion, gyda 10,941 o bobl wedi’u lletya mewn llety dros dro ym mis Gorffennaf 2025. Gall llety dros dro gael effaith negyddol ar iechyd a llesiant preswylwyr, ac yn aml mae’n ychwanegu at dlodi ac anghydraddoldeb. Mae hefyd wedi arwain at lefelau digynsail ac anghynaliadwy o wariant gan gynghorau. Yn ôl yr adroddiad diweddaraf gan Archwilio Cymru mae gwariant cynghorau ar lety dros dro yng Nghymru wedi cynyddu o £28 miliwn yn 2019 i £172 miliwn erbyn 2023-24.
Bydd y gweithdy ar-lein yn dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, gan gynnwys y Centre for Homelessness Impact, i drafod y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â llety dros dro yng Nghymru. Dyma’r siaradwyr:
- Benjamin Lewis, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddeg (KAS) Llywodraeth Cymru
- Ian Thomas, Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru
- Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd
- Philippa Dixon a Timothy Buckle, Archwilio Cymru
- Wendy Dearden, Sefydliad Bevan
Mae’r gweithdy ar gyfer timau tai a digartrefedd a rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol, ynghyd â chynrychiolwyr etholedig llywodraeth leol sy’n gweithio i leihau’r angen am lety dros dro a’r defnydd o lety dros dro, a/neu i wella’r defnydd o lety dros dro.
Cofrestrwch i ymuno drwy’r ddolen isod. *Cofrestrwch cyn y 13eg Tachwedd os hoffech chi’r dewis o ryngweithio yn y gweithdy hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rosalind Phillips (rosalind.phillips@wcpp.org.uk).