Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCCP) rydym ni’n barhaus yn adfyfyrio ar ein rôl fel ‘corff brocera gwybodaeth’. Rydym ni’n gweld ‘brocera gwybodaeth’ fel cysylltu ymchwilwyr â phenderfynwyr er mwyn helpu i lywio polisïau cyhoeddus ac arferion proffesiynol. Er bod potensial mawr gan frocera gwybodaeth, rydym ni hefyd yn cydnabod y cymhlethdod sy’n rhan annatod o’n gwaith.
Er mwyn archwilio rhai o’r cymhlethdodau hyn, yn ddiweddar fe gynhaliom ni ddigwyddiad ochr yn ochr â SPARK (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd), gan ddod â brocerwyr gwybodaeth ac aelodau eraill o’r gymuned polisi yng Nghymru at ei gilydd i rannu dysgu ac ymarfer gorau.
Cynigiodd yr Athro Jonathan Sharples o’r Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) a Dr Rhiannon Evans o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) safbwyntiau o feysydd addysg ac iechyd cyhoeddus yn eu tro. O dîm ymchwil WCPP cynigiodd Dr Eleanor MacKillop gipolwg ar ein gwaith ar ddeall y rôl mae tystiolaeth yn ei chwarae wrth lunio polisïau.
Er bod y drafodaeth yn eang, bydd y blog hwn yn canolbwyntio ar adfyfyrio ar natur tystiolaeth a gwleidyddiaeth defnyddio tystiolaeth.
Thema allweddol yn y drafodaeth oedd gwerth dulliau cymysg ac ymchwil ansoddol ym maes brocera gwybodaeth, y cyfeirir ato hefyd fel symudedd gwybodaeth. Bu panelwyr yn gwerthuso’r defnydd o hierarchaethau tystiolaeth sy’n breintio ymchwil ansoddol (yn benodol hap-dreialon wedi’u rheoli) yn lle canolbwyntio ar y ffit rhwng y cwestiwn a’r dulliau ymchwil. Er enghraifft ar gyfer gwerthuso gwaith EEF gydag awdurdodau lleol i wella’r defnydd o Gynorthwywyr Addysgu roedd angen ymagwedd dulliau cymysg i gwmpasu elfennau allweddol brocera ar lefel ranbarthol. Caniataodd yr ymagwedd hon i EEF grynhoi dysgu am y perthnasoedd a’r rhwydweithiau oedd yn hanfodol i gyflawni effaith.
Yn yr un modd, mae WCPP yn cynnal ymagwedd eang a beirniadol wrth bennu beth sydd ac nad sy’n ‘dystiolaeth’, gan dynnu ar ddata ansoddol a meintiol cadarn heb freintio dulliau penodol. Wrth symud ymlaen, bydd WCPP yn cynnal ymchwil i ddeall beth mae ‘tystiolaeth’ yn ei olygu i wahanol randdeiliaid yn y broses polisi yng Nghymru ac yn ystyried sut y gallai hynny effeithio ar ein gwaith.
Thema arall a drafodwyd oedd ‘cyd-gynhyrchu’ tystiolaeth rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr. Er bod cyd-gynhyrchu wedi’i gydnabod gan y panelwyr fel elfen hanfodol mewn brocera gwybodaeth, fe’i cydnabuwyd fel cysyniad llithrig gydag amrywiaeth o ystyron posibl. Yng nghyd-destun gwaith EEF gydag ysgolion, gellid defnyddio’r term ‘cyd-gynhyrchu’ ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau, yn amrywio o gymryd rhan mewn hap-dreialon wedi’u rheoli i gyd-gynllunio canllawiau ar y defnydd gorau o Gynorthwywyr Addysgu.
Gallai ymagweddau sydd wedi’u seilio mewn cyd-gynhyrchu helpu i ‘bontio’r bwlch’ rhwng gwahanol gredoau ynghylch tystiolaeth, gan ganiatáu dialog rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a’i defnyddwyr yn y pen draw. Fodd bynnag, nid yw defnydd o gyd-gynhyrchu yn rhydd o’i gymhlethdodau ei hun. Fel yr amlygodd Dr MacKillop, mae’n bwysig i ymchwilwyr a broceriaid gwybodaeth archwilio’r cysyniad o gyd-gynhyrchu’n feirniadol, yn enwedig ei allu i eithrio yn ogystal â chynnwys amrywiol leisiau. Mae ymarfer cyd-gynhyrchu yn anochel yn wleidyddol ac fel broceriaid gwybodaeth mae angen i ni herio anghydraddoldebau o ran pwy sy’n cael penderfynu beth sy’n dystiolaeth ddefnyddiol a beth nad yw’n ddefnyddiol.
Yn gyffredinol, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i symud y sgwrs am frocera gwybodaeth yn ei blaen - gallwch gael blas o’r sgwrs fywiog a gawsom yn yr ystafell ac ar-lein drwy ein moment Twitter. Edrychwn ymlaen at barhau â’r drafodaeth gyda phawb sy’n gweithio yn y rhyngwyneb tystiolaeth a pholisi.