Rydym am recriwtio unigolyn arbennig i gyfrannu at ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru am y pum mis nesaf. Mae’r swydd yn gyfle unigryw i reoli a gwneud ymchwil polisi o safon uchel, gan weithio’n agos gydag ymchwilwyr a llunwyr polisïau blaenllaw sydd wrth wraidd datblygiadau a dadleuon polisi cyfredol, yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth, sef yr amgylchedd a sero net, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a lles cymunedol.
Mae’n rhaid ichi feddu ar ddealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus; y gallu i weithio'n uniongyrchol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus; ymrwymiad i ymchwil o safon sy'n berthnasol i fyd polisi; sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol; a'r gallu i weithio’n rhan o dîm ehangach y Ganolfan.
Swydd ran-amser yw hon sydd ar gael ar unwaith (0.5 FTE) tan 31 Mai 2025 dros gyfnod mamolaeth. Mae'r Ganolfan yn cynnig gweithle ysgogol a chefnogol a threfniadau gweithio hyblyg; cynllun pensiwn prifysgol hael; cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi; a chartref ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar Gampws Arloesi Caerdydd gwerth £300 miliwn. Mae'r Ganolfan yn cefnogi gweithio hybrid a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio o'i swyddfeydd yng Nghaerdydd ddau ddiwrnod yr wythnos.
Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â'r Athro James Downe (Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – james.downe@wcpp.org.uk) neu Dan Bristow (Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer – dan.bristow@wcpp.org.uk) i gael trafodaeth anffurfiol am y rôl. Byddwn yn ystyried ceisiadau i ymuno â'r Ganolfan ar secondiad.
CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i wneud ymgais.