Job

Cynorthwy-ydd Ymchwil

Mae’n bleser gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wahodd ceisiadau ar gyfer rôl newydd fel Cynorthwy-ydd Ymchwil i gynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau ac arferion gweithredu tystiolaeth.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr profiadol yn y Ganolfan ar astudiaethau sy'n helpu i lywio ei dull o weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ac asesu ei heffaith.

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i gynnal ymchwil a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y llenyddiaeth academaidd gynyddol ar lunio polisïau ar sail tystiolaeth yn ogystal â helpu i wella dealltwriaeth o sut y gall y Ganolfan wella ei heffaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu ei ddealltwriaeth o ddadleuon academaidd allweddol yn y meysydd hyn gan weithio o fewn Canolfan y cydnabyddir ei bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac ymarfer yn y maes.

CLICIWCH YMA AM FWY O FANYLION AC I WNEUD CAIS

£32,332 - £34,980 per annum (Grade 5).

Caerdydd

Application deadline:
2023-09-21T00:00

Application deadline has passed

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.