Yn ystod y pandemig COVID-19, daeth sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen. Gyda gwreiddiau dwfn yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, roedd y mudiadau hyn yn gallu manteisio ar wybodaeth leol a seilwaith oedd eisoes yn bodoli i gyrraedd y rheini roedd angen help arnyn nhw fwyaf. Fe wnaeth adroddiad gan Locality (2020) dynnu sylw at rôl sefydliadau cymunedol fel ‘cocos cyswllt’ sy’n galluogi systemau lleol sy’n gweithio’n dda i ddod i’r amlwg yn gyflym, gan ddefnyddio seilwaith cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli i ddiwallu anghenion brys. Er enghraifft, nododd ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) y rôl hanfodol y gwnaeth sefydliadau cymunedol ei chwarae wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn ystod y pandemig a’r ffactorau galluogi a wnaeth gefnogi’r ymateb hwn.
Cyn y pandemig, roedd teimlad weithiau bod rhaniad rhwng sefydliadau cymunedol a sefydliadau sector cyhoeddus – p’un a oedd hyn yn gysylltiedig â ffyrdd gwahanol o weithio, y defnydd o iaith wahanol, neu flaenoriaethau gwahanol – yn ystod ac ar ôl y pandemig, mae cydweithio amlsector wedi ffynnu. Mewn llawer o feysydd, roedd yn ymddangos bron fel pe bai’r rhwystrau oedd yn atal cydweithio wedi diflannu. Datblygwyd neu cryfhawyd perthnasoedd newydd rhwng llywodraeth leol, iechyd a’r sectorau cymunedol, gan symud tuag at weithio system gyfan (Locality, 2020; Havers et al, 2021; Kaye & Morgan, 2021). Nodwyd bod rôl llywodraeth leol mewn cefnogi gweithredu cymunedol yn dyngedfennol mewn cydweithrediadau sy’n seiliedig ar leoedd (Pollard et al., 2021).
Ymchwil newydd – beth sy’n gwneud i gydweithio weithio?
Mae ymchwil newydd, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP), yn archwilio nid yn unig pa ffactorau sy’n gwneud cydweithio amlsector yn effeithiol, ond yn hollbwysig, sut y mae modd cydweithio ar draws gwahanol gyd-destunau a pham. Fe wnaeth yr ymchwil ganfod fod ymdeimlad cyffredin o bwrpas yn sbardun allweddol i gydweithio amlsector llwyddiannus. Fe wnaeth argyfwng y pandemig ddarparu pwrpas canolog clir i ddod ag asiantaethau at ei gilydd i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol. Sbardun allweddol arall oedd hyblygrwydd – sawl gwaith y clywsom ni y geiriau ‘pivot’ ac ‘agile’ yn ystod y pandemig?
Yn ystod y cyfnod adfer hwn, wrth i ni frwydro yn erbyn nifer o argyfyngau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, y cyfyngiadau cyllidol ar wasanaethau cyhoeddus, a’r argyfwng hinsawdd, mae cefnogi gweithredu cymunedol yn dal yn brif flaenoriaeth ar gyfer llesiant – ac eto mae perygl y byddwn ni’n llithro’n ôl i’n hen seilos. Gyda hyn mewn golwg, cyd-gynhyrchodd Coleg Brenhinol y Meddygon a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yr ymchwil hon i ddarganfod pa gamau ystyrlon a phendant y mae modd eu cymryd i ddatblygu cydweithio amlsector sy’n cefnogi gweithredu cymunedol.
Mae’r ymchwil yn cynnwys adolygiadau o lenyddiaeth o gyn ac ar ôl y pandemig, synthesis o ddysgu o ymarfer, a gweithdy sy’n ychwanegu profiad a chyd-destun pellach sy’n seiliedig ar ymarfer i’r sylfaen dystiolaeth.
Crynodeb o’r ymchwil
Yn gyntaf, nododd yr ymchwil nodweddion allweddol cydweithio effeithiol a ffactorau sy’n ei gefnogi, cyn canolbwyntio ar gamau gweithredu diriaethol i gefnogi datblygiad cydweithio amlsector mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’r rhain wedi’u rhannu’n dair thema:
Gweithgareddau at ddatblygu dibenion cyffredin: Fe wnaeth yr ymchwil ganfod fod cydweithio’n fwy effeithiol lle mae nod llesiant ar y cyd y tu hwnt i’r cydweithio ei hun. Cafodd gweithgareddau ar gyfer datblygu nodau a dealltwriaeth ar y cyd eu grwpio i’r categorïau hyn: casglu gwybodaeth; meddwl systemau darlun mawr; cynllunio tymor hir a macro-gyfeirio; hyfforddi a dysgu ar y cyd; cyfuno a rhannu gwybodaeth; diffinio canlyniadau a sut i’w mesur; goruchwyliaeth ar y cyd i gydlynu gwasanaethau.
Trefniadau llywodraethu: Roedd y rhain yn cynnwys rolau, cyfrifoldebau, prosesau a strwythurau a wnaeth helpu yn hytrach na llesteirio cydweithio amlsector ac a gafodd eu grwpio i’r categorïau hyn: rolau cyswllt/cydlynu a llwybrau atgyfeirio; cyfrifoldebau a ffiniau y cytunwyd arnynt ar y cyd; arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ar y cyd; polisïau a gweithdrefnau; rôl cyrff a seilweithiau rhanbarthol a chenedlaethol; is-grwpiau cydweithio; cefnogi capasiti a chysondeb y gweithlu.
Mecanweithiau ariannol: Cafodd dulliau cefnogol o ariannu gwaith a mentrau mewn ffyrdd sy’n cefnogi cydweithio amlsector eu grwpio i’r categorïau hyn: cyllid grant cyfranogol hyblyg a thymor hir; comisiynu; adeiladu cyfoeth cymunedol; seilwaith/ystadau; codi arian; cynnull adnoddau; adrodd ar effaith.
Gallwch chi ddarllen mwy am yr hyn sy’n gweithio i gefnogi cydweithio amlsector yn yr adroddiad. Ar ben hynny, mae canfyddiadau’r ymchwil wedi cael eu datblygu’n Fframwaith Gweithredu rhyngweithiol y mae modd ei ddefnyddio i gefnogi cydweithio amlsector mewn gwahanol gyd-destunau ymarfer a pholisi, drwy nodi camau gweithredu diriaethol y mae modd eu cymryd yn y tri maes hyn.
Myfyrdodau
Mae cydweithio amlsector i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol yn fecanwaith hynod bwysig ond cymhleth o ran darparu cymdeithas gymdeithasol gyfiawn a theg sy’n cefnogi iechyd a llesiant i bawb.
Yn y DU, fe wnaeth adroddiad gan y Sefydliad Tegwch Iechyd nodi fod cydweithio amlsector rhwng pob lefel o lywodraeth a chymdeithas sifil yn ofyniad mewn cymdeithasau ‘adeiladu yn ôl yn decach’ o ran iechyd a thegwch cymdeithasol yn dilyn y pandemig (Marmot et al., 2020). Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i fanteisio ar y cyfle a ddaeth yn sgil argyfwng y pandemig i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd, i wneud pethau’n wahanol ar gyfer cymdeithas decach a mwy cyfiawn. Yn eu barn nhw, un o’r nodau ddylai fod adeiladu economi llesiant sy’n rhoi iechyd a llesiant, yn hytrach na nodau economaidd yn unig, wrth galon strategaeth y llywodraeth.
Fodd bynnag, nid yw cydweithio amlsector yn gweithio os mai cyfarwyddeb o’r brig i lawr yn unig ydyw; rhaid iddo hefyd gael ei arwain o lawr gwlad a rhaid i bob ochr gytuno arno. Mae hyn yn cael ei gydnabod i ryw raddau mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, sy’n tanlinellu pwysigrwydd perthnasoedd rhwng pobl, llywodraeth a sefydliadau eraill o ran meithrin gwytnwch economaidd a chymdeithasol mewn argyfwng ac adferiad sy’n gyfiawn yn gymdeithasol ar ôl y pandemig (Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, 2023). Mae eu hargymhellion polisi yn cefnogi egwyddorion cydweithio amlsector sy’n cael eu harddel gan Goleg Brenhinol y Meddygon a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn yr ymchwil hon, yn enwedig egwyddorion llywodraethu democrataidd, partneriaethau rhwng llywodraeth, y gymuned a mudiadau sector cyhoeddus, cynnwys cymunedau yn y gwaith o ddatblygu strategaethau sy’n seiliedig ar leoedd ar gyfer iechyd a llesiant, dysgu ar y cyd, a monitro a gwerthuso effaith ar gyfer atebolrwydd.
Er bod llenyddiaeth o gyn y pandemig yn nodi amrywiaeth o fodelau cydweithio ac yn dweud llawer am gymhlethdodau rhannu pŵer a chyfrifoldeb rhwng mudiadau a sectorau, mae gan y llenyddiaeth o ar ôl y pandemig thema gyffredin sy’n nodi pwysigrwydd pwrpas cyffredin. Fe wnaeth y pandemig ddarparu pwrpas cyffredin ar gyfer cydweithio, ac nid oedd yn ymddangos bod y problemau rhannu pŵer a nodwyd yn y llenyddiaeth cyn y pandemig yr un mor bwysig. Wrth symud ymlaen, mae’n ymddangos bod canfod nodau cyffredin ar gyfer cydweithio amlsector yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant, ac y gallai gwneud hyn ar y cyd helpu i osgoi rhai o’r rhwystrau i lwyddiant a oedd yn bodoli cyn y pandemig.
Roedd yr hyn a ddysgwyd o ymarfer yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu canlyniadau a dangosyddion priodol i fesur ac adrodd ar lwyddiant y cydweithio, yn ogystal â ffyrdd ymarferol o sicrhau bod cydweithio’n gweithio. Mae llawer o enghreifftiau mewn gwahanol gyd-destunau yn cael eu darparu yn yr adroddiad.
Mae hyblygrwydd yn elfen gyffredin ar draws y tair prif thema yn y llenyddiaeth ymchwil, a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan yr hyn a ddysgwyd o ymarfer. Argymhellwyd bod hyd yn oed y modelau a nodwyd yn y llenyddiaeth o gyn y pandemig yn cael eu haddasu i gyd-destunau polisi ac ymarfer penodol, gan gydnabod bod gwahanol gyfuniadau o gryfderau sefydliadol a gwybodaeth arbenigol yn bodoli mewn gwahanol ardaloedd daearyddol ac ar gyfer nodau llesiant gwahanol. Mae’r holl gamau gweithredu sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad ymchwil a’r Fframwaith Gweithredu yn dibynnu ar gyd-destun ac mae modd ei hystyried fel bwydlen lle gall cydweithrediadau amlsector ddewis y cyfuniad mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion lleol.
I grynhoi, bydd yr adnoddau hyn – sydd wedi cael eu paratoi ar y cyd gan randdeiliaid amlsector o ymchwil, polisi ac ymarfer – yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu cydweithrediad amlsector newydd neu bresennol. Edrychwch ar y rhain a’u haddasu i’ch amgylchiadau eich hun.
Yr Athro Anne-Marie Bagnall,
Canolfan Ymchwil Hybu Iechyd, Prifysgol Leeds Beckett