Uncategorized @cy

Arolwg CPCC yn codi'r caead ar stigma tlodi yng Nghymru 

Mae'r arolwg mawr cyntaf o hyd a lled stigma tlodi yng Nghymru wedi canfod bod 25% o boblogaeth Cymru wedi profi stigma tlodi 'bob amser', 'yn aml' neu 'weithiau' yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Comisiynwyd Sefydliad Bevan gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal yr arolwg fel rhan o waith y Ganolfan i gefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn deall a mynd i'r afael â'r mater yn well - i 'leihau, yn hytrach nag achosi stigma tlodi' wrth greu a darparu polisïau a gwasanaethau.

Mae'r arolwg, a gynhaliwyd gan YouGov ac a gefnogir gan bartner y Ganolfan, yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), yn datgelu i ba raddau y mae'r dimensiwn cudd, ond niweidiol, hwn o dlodi yn effeithio ar grwpiau mawr o boblogaeth Cymru, gyda phobl ifanc yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio na chenedlaethau hŷn.

Dangosodd adroddiad blaenorol y Ganolfan, Adolygiad o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru, fod stigma tlodi yn fath o ddioddefaint a all effeithio ar allu neu barodrwydd pobl i geisio cymorth neu gymryd rhan lawn yn eu cymunedau. I bob pwrpas, mae’n rhwystr rhag dianc o dlodi.

Mae’r arolwg yn edrych ar lefelau stigma tlodi yng Nghymru - stigma personol* a stigma strwythurol canfyddedig - a pha grwpiau o gymdeithas yng Nghymru sy’n fwyaf tebygol o’u profi.

Prif ganfyddiadau:

  • Mae 1 o bob 4 oedolyn yng Nghymru wedi profi stigma tlodi ‘weithiau’, ‘yn aml’ neu ‘bob amser’ yn ystod y 12 mis diwethaf – 1 o bob 3 lle mae incwm blynyddol aelwydydd yn llai nag £20k.
  • Mae pobl iau yn profi lefelau uwch o stigma tlodi strwythurol personol a chanfyddedig na phobl hŷn (dywedodd pobl 16-24 oed iddynt brofi 3 x yn fwy o stigma personol na phobl 65 oed a hŷn).
  • Mae pobl sy’n profi ansicrwydd bwyd yn profi 3 x yn fwy o stigma personol na’r rheini nad ydynt yn wynebu ansicrwydd bwyd
  • Y math mwyaf cyffredin o stigma tlodi personol yw lle ‘mae pobl yn gwneud tybiaethau negyddol amdanaf oherwydd nad oes gen i lawer o arian’
  • Nid oedd stigma strwythurol canfyddedig yn amrywio yn ôl incwm aelwydydd – mae 9 o bob 10 oedolyn yn credu bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a’r cyfryngau yn cyfrannu at stigma tlodi.
  • Mae pobl ag anableddau, y rhai sy'n byw mewn eiddo rhent a'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau hefyd yn grwpiau sy'n fwy tebygol o brofi stigma yn gysylltiedig â thlodiac yn fwy tebygol o gredu mewn stigma strwythurol.

Dadansoddwyd yr arolwg gan Dr Greig Inglis o Brifysgol Gorllewin yr Alban ac Amanda Hill-Dixon a Josh Coles-Riley o'r Ganolfan. Mewn blog cysylltiedig, mae Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, wedi canmol y Ganolfan am godi proffil stigma tlodi ac wedi tynnu sylw at bolisïau a all helpu i’w leihau – gan bwysleisio mai tlodi ei hun yw prif sbardun y broblem.

Dywedodd Uwch-gymrawd Ymchwil y Ganolfan, Amanda Hill-Dixon: “Yn ogystal â gorfod ymdopi ag incwm annigonol a chostau uchel, mae gormod o bobl hefyd yn gorfod delio â rhwystr ychwanegol ar ffurf stigma tlodi a’r baich iechyd meddwl ac allgáu cymdeithasol y gall hyn ei achosi.

“Yn rhyfedd ddigon, mae bron pawb yng Nghymru yn credu mewn stigma tlodi strwythurol, sy’n awgrymu’n gryf bod stigma tlodi yn fater systemig y mae angen i ni roi sylw iddo. Ac er bod llawer o’r prif ffactorau sy’n sbarduno tlodi y tu allan i reolaeth llywodraeth leol a chenedlaethol Cymru, drwy fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi, gall dylunwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac elusennol gyfyngu ar effeithiau tlodi.

“Mae’n galonogol bod cymaint o frwdfrydedd ymysg gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda ni ac eraill i fynd i’r afael â’r mater hwn er mwyn gwella bywydau’r rheini sy’n profi caledi sylweddol.”

Ychwanegodd Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan: “Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn taflu goleuni ar yr agwedd hon ar dlodi - agwedd na cheir llawer o drafod arni’n aml - ac mae’n ein helpu i ddeall pa gamau y dylid eu blaenoriaethu i fynd i’r afael â hyn.

“Achos sylfaenol stigma tlodi yw tlodi ei hun, ond gall stigma waethygu effaith tlodi. Er enghraifft, os bydd y dirywiad yn iechyd meddwl person yn arwain at leihau ei oriau gwaith, bydd ei risg o fyw mewn mwy o dlodi yn cynyddu. Os bydd rhywun yn dewis peidio â hawlio’r holl gymorth y mae ganddo hawl iddo, bydd yn wynebu hyd yn oed mwy o galedi ariannol. Bydd plant sy’n absennol o’r ysgol oherwydd stigma yn ymwneud â gwisg ysgol, bwyd neu adnoddau yn ei chael hi’n anoddach cael y graddau gorau, gan gynyddu eu risg o fyw mewn tlodi pan fyddan nhw’n oedolion.

“Dylai’r camau a gymerir i fynd i’r afael â thlodi canolbwyntio ar feysydd fel y rhain sydd, ochr yn ochr ag ymyriadau eraill fel buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol a gwella mynediad at ofal plant, yn gallu helpu i newid y sefyllfa tlodi yn sylweddol a lleihau ei stigma.”

Mae’r arolwg yn rhan o raglen waith ehangach y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd â hi, i helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddeall a mynd i’r afael â stigma tlodi yn well – i leihau, yn hytrach nag achosi stigma wrth greu polisïau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys partneriaeth â Chyngor Abertawe ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe i nodi beth sy'n gweithio i fynd i'r afael â stigma tlodi ar lefel leol a sicrhau bod profiad bywyd yn rhan allweddol o'r dysgu.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi sy'n cynnwys ystod eang o gyfranogwyr gan gynnwys llunwyr polisïau, ymarferwyr, arbenigwyr-drwy-brofiad ac academyddion, ac mae ar fin comisiynu Adolygiad Tystiolaeth Cyflym o'r mater.

Dywedodd Karen Berrell, Comisiynydd Gwirionedd Tlodi Abertawe, “Mae stigma tlodi yn cael effaith negyddol ar y potensial sy’n bodoli ar draws ein cymunedau. Fel rhywun sydd â phrofiad byw fy hun, rwy’n credu ei bod yn eithriadol o bwysig bod ein gwneuthurwyr polisi a’n cyrff cyhoeddus yn deall effaith stigma tlodi er mwyn iddyn nhw allu mynd i’r afael ag ef.

“Mae angen i ni newid yr agweddau niweidiol sy’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn methu. Nid canlyniad dewisiadau gwael mewn bywyd yw tlodi a stigma tlodi, ond dewisiadau a wneir ar lefelau uchaf ein systemau gwleidyddol sy’n golygu nad oes gan bobl ddigon o arian i fyw arno a’u bod yn cael eu hallgáu’n gymdeithasol.”

Dywedodd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Lesiant: “Rydyn ni’n awyddus i ddeall yn well beth yw rôl stigma fel rhwystr rhag i’n trigolion gael mynediad at wasanaethau a buddion a chyfranogi cymunedol, a bydd ein partneriaeth â’r Ganolfan a Chomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe yn helpu i lywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.”

*Mae stigma personol yn cyfeirio at brofiadau unigolion o gael eu barnu’n negyddol, eu hallgáu, neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod yn byw ar incwm isel.

Mae stigma canfyddedig yn cyfeirio at gred unigolion bod pobl sy’n byw ar incwm isel yn cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a sefydliadau fel y cyfryngau.

DARLLENWCH YR ADRODDIAD LLAWN

DARLLENWCH BRIFF POLISI

DARLLENWCH flog Sefydliad Bevan

DARLLENWCH ein gwaith arall hyd yma ar stigma tlodi

 

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.