Mae dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn dibynnu ar gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl drwy ysgolion, ysbytai, gwasanaethau gofal a system gyfiawnder troseddol Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Gan ymateb i alwad y Prif Weinidog i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru o fewn degawd, mae'r Ganolfan wedi gweithio gydag arbenigwyr mewn digartrefedd o Brifysgol York yng Nghanada i ddadansoddi beth y gall llywodraethau ei wneud i ymdrin â'r mater.
Mae'r adroddiad yn canfod bod ymyriadau cynnar sy'n atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref cyn iddo ddigwydd yn allweddol i ddileu digartrefedd pobl ifanc.
Mae'n argymell:
- Gweithio ar draws y Llywodraeth i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd;
- Creu cymorth parhaus i bobl ifanc sy'n gadael gofal, rhai o'r bobl sy'n fwyaf tebygol o fod yn ddigartref, tan eu bod yn 25 oed;
- Sicrhau bod pobl ifanc sy'n cael eu rhyddhau o'r system gyfiawnder troseddol yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf ac y gallant fanteisio ar amrywiaeth o opsiynau cartrefu.
Dywedodd Dr Jonathan Webb, Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
"Bydd unrhyw un sy'n gweld y cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sy'n cysgu allan yn nhrefi a dinasoedd Cymru am wybod beth y gellir ei wneud i'w helpu.
"Yr hyn mae'n hadroddiad newydd yn ei ddangos yw mai atal pobl rhag bod heb gartref yn y lle cyntaf yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
"Mae angen i bobl ar draws Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a gwasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd, gan sicrhau bod rhwydi diogelwch yn cael eu sefydlu i atal pobl ifanc rhag syrthio drwy'r bylchau rhwng y gwasanaethau cymorth presennol."