Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Beth a wnaer ar draws y byd i fynd i’r afael â llygredd aer? December 10, 2018 by cuwpadmin Mae'r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Strategaethau a thechnolegau ansawdd aer: Adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ryngwladol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Sarah Quarmby, Georgina Santos a Megan Mathias ac sy’n archwilio'r hyn a wyddom am wahanol ffyrdd o lanhau’r aer a anadlwn. Beth yw ansawdd aer? Caiff […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol 5 Peth Dylech Chi Wybod am Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru December 5, 2018 by cuwpadmin Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yn cyfrannu at Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni â'r nod o wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhywedd Yn dilyn ein hadroddiad yn yr haf ar Bolisi ac Ymarfer Rhyngwladol, yn ddiweddar cynhaliom ni seminar […] Read more »
Uncategorized @cy Strategaethau a Thechnolegau Ansawdd Aer Mae ansawdd aer gwael yn cael effaith negyddol ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae llywodraethau a chyrff sector preifat ar hyd a lled y byd yn datblygu ac yn treialu ffyrdd amrywiol o wella ansawdd aer. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys adolygiad cyflym o’r gwahanol fathau o gynlluniau ansawdd aer sy’n […] Read more »
Uncategorized @cy Meithrin Cyswllt Athrawon â Thystiolaeth Ymchwil Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’r Ganolfan adolygu’r dystiolaeth ynghylch y ffordd orau o hwyluso ymwneud athrawon ag ymchwil. Ar y cyd â chydweithwyr yn y Ganolfan Tystiolaeth am Wybodaeth Polisi ac Ymarfer a Chydlynu (EPPI-Centre) yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), rydym wedi: Adolygu a chydgrynhoi’r hyn sy’n hysbys am yr hyn sy’n gweithio […] Read more »
Uncategorized @cy Rhaid i brifysgolion chwarae eu rhan i wella cymdeithas Cymru, medd adroddiad Dylai prifysgolion Cymru gyfrannu’n ehangach at gymdeithas drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o estyn allan at y cymunedau o’u cwmpas a chysylltu â nhw, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae adroddiad Cynyddu’r cyfraniad dinesig gan brifysgolion, a ysgrifennwyd ar gyfer y Ganolfan gan yr Athro Ellen Hazelkorn a’r Athro […] Read more »
Uncategorized @cy Cynyddu’r Cyfraniad Dinesig gan Brifysgolion Mae'r adroddiad yn deall cenhadaeth ddinesig prifysgolion fel eu hymrwymiad i wella’r cymunedau lleol a rhanbarthol y maent yn rhan ohonynt. Mae cenhadaeth ddinesig yn gydnabyddiaeth bod rhwymedigaeth ar brifysgolion i weithredu fel hyn, ac ymgysylltu dinesig yw’r broses ar gyfer ei gyflawni. Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar allu prifysgolion i ymgymryd ag ymgysylltu […] Read more »
Uncategorized @cy Hybu Camu Ymlaen mewn Swydd mewn Sectorau Cyflog Isel Mae Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn dangos yr angen i hybu camu ymlaen mewn swydd er mwyn cynyddu enillion ac oriau mewn swyddi lefel mynediad, cyflog isel sydd, i raddau cynyddol, yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i gamu ymlaen. Mae ein hadolygiad o dystiolaeth o’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag […] Read more »
Uncategorized @cy Deddfwriaethu i Wahardd Rhiant Rhag Cosbi Plant yn Gorfforol Mae'r adroddiad hwn yn ystyried beth allwn ni ei ddysgu gan wledydd sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth i wahardd rhieni rhag cosbi plant yn gorfforol. Yn seiliedig ar adolygiad o ddeddfwriaeth yr awdurdodaethau perthnasol, ac ymchwil amdanynt, mae'n ceisio nodi'r ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu cynigion i ddiwygio. Erbyn 1 Mai 2018, mae 53 o wledydd […] Read more »
Uncategorized @cy Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Ym Mehefin 2018 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfrannu i ymchwil at atal digartrefedd pobl ifanc. Yr adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth fan hyn, a’r adroddiad ategol sy'n mapio ymyrraeth yng Nghymru, yw’r cyfraniad hwnnw. Yng nghyd-destun y symud byd-eang tuag at atal, mae’r adolygiad ryngwladol yn nodi ymyriadau […] Read more »
Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Rhaid i waith teg ymwneud â mwy na phwy sy'n cadw'r cildwrn October 3, 2018 by cuwpadmin Bydd cyfraith newydd a gyhoeddwyd gan brif weinidog y DU Theresa May yn golygu na chaiff tai bwyta ym Mhrydain gymryd cildyrnau oddi ar staff yn annheg. Mae sicrhau bod staff yn cadw eu cildyrnau'n sicr yn symudiad cadarnhaol at hyrwyddo tegwch. Ond gan fod gweithwyr yn aml yn defnyddio cildyrnau i ategu eu cyflogau […] Read more »