Dyw taro a mathau eraill o gosbau corfforol ddim yn fwy effeithiol na thechnegau rhianta eraill wrth ddisgyblu plant, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Mae ‘Parental Physical Punishment: Child Outcomes and Attitudes’ yn adolygu'r hyn sy'n wybyddus am y ffordd mae cosbi corfforol yn effeithio ar blant.
Er nad oes unrhyw fanteision clir yn perthyn i daro, mewn achosion ble mae'r ymchwil wedi ceisio gwahanu effaith taro oddi wrth ffactorau eraill fel sefyllfa deuluol, statws economaidd-gymdeithasol neu broblemau ymddygiad ehangach, mae'r adroddiad hefyd yn canfod bod effaith negyddol taro yn ymddangos yn fach iawn.
Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
"Mae gan bobl safbwyntiau cryf yn seiliedig ar werthoedd ynghylch y pwnc hwn. Gyda'r adroddiad hwn, rydym ni wedi ceisio amlinellu'r hyn mae'r dystiolaeth yn gallu ei ddweud wrthym ni am effaith taro.
"Mae'n amlwg fod mathau difrifol a pharhaus o gosbi corfforol yn niweidiol i ddatblygiad plentyn. Mae effaith cosb gorfforol ysgafnach fel taro achlysurol yn llai clir; mae ymchwil yn dangos bod taro'n gysylltiedig â chanlyniadau negyddol, ond ni all ddweud ai dyma yw'r unig achos, neu'r prif achos amdanyn nhw.
"Ochr yn ochr â hyn mae tystiolaeth yn dangos nad yw taro'n fwy effeithiol na thechnegau rhianta eraill, boed yn y tymor byr neu'r tymor hir.
"Mater i eraill yw barnu beth yw ystyr hyn i gyd; a dyna'r penderfyniad fydd y Cynulliad yn ei wynebu cyn hir wrth drafod cyfreithiau newydd ar wahardd taro."