Dr Andrew Connell
Mae Andrew yn gweithio’n bennaf ar raglen ymchwil WCPP ac mae ganddo ddiddordeb mewn cwmpas pwerau polisi a’u defnydd yng Nghymru (ac mewn llywodraethau datganoledig a gwledydd bychain yn fwy cyffredinol). Mae hefyd wedi cyfrannu at waith Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus.
Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith, treuliodd Andrew rai blynyddoedd yn gweithio gyda thai a’r digartrefedd, gan ennill gradd MSc mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddu o Birkbeck, Prifysgol Llundain. Symudodd i Gymru yn 2001 i weithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru cyn cwblhau PhD mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Wedi hynny, bu’n addysgu ym Mhrifysgol Efrog a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd cyn ymuno â’n rhagflaenydd, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ym mis Tachwedd 2015. Mae Andrew yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch a’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae ganddo Dystysgrif Sgiliau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gall weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol
PhD mewn Astudiaethau Ewropeaidd (Gwleidyddiaeth), Prifysgol Caerdydd
MSc mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddu, Birkbeck, Prifysgol Llundain
BA (Anrh) yn y Gyfraith, Prifysgol Caergrawnt
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu ym maes Addysg Uwch, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Tystysgrif Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio'r Gymraeg
Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Aelod, Coleg Cymraeg Cenedlaethol