Charlotte Deeley
Mae Charlotte Deeley yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn gweithio ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus y ganolfan.
Ymunodd Charlotte â WCPP o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) lle bu’n gweithio fel Ystadegydd ac Ymchwilydd Cymdeithasol.
Fel yr uwch arweinydd dadansoddol i Gyfarwyddwr Rhaglen Trawsnewid Casglu Data’r Cyfrifiad, bu Charlotte yn arbenigo mewn cydweithio ar draws y sefydliad a’i bartneriaid.
Tua diwedd 2021 sefydlodd ac arweiniodd swyddogaeth Dadansoddi Iechyd a Chydlynu Mewnwelediad Pandemig yr ONS. Ei thîm hi oedd yn gyfrifol am ddod â dadansoddwyr, academyddion, a llunwyr polisi ynghyd i gomisiynu a syntheseiddio tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau polisi wrth i’r llywodraeth lywio’r pontio i fyd ôl-bandemig. Cyn hynny bu’n gweithio fel Uwch Ymchwilydd Cymdeithasol ym maes Dadansoddi Polisi Cyhoeddus, a datblygodd bartneriaethau gyda Swyddfa’r Cabinet a Rhif 10, gan gyflwyno briffiau dadansoddol beirniadol i’r llywodraeth ganolog ar ddechrau pandemig COVID-19.
Cyn hynny bu Charlotte yn gweithio ym maes ystadegau economaidd. Gan ganolbwyntio ar strategaeth ac ymgysylltu, bu’n goruchwylio partneriaethau gyda’r Ganolfan Ystadegau Economaidd er Rhagoriaeth, CBAC, a Chomisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig.