Dr Katie Crompton
Mae Dr Katie Crompton yn Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Cymrodoriaeth Polisi’r ESRC, ar secondiad i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) o Brifysgol Bournemouth, rhwng mis Mawrth 2024 a mis Mawrth 2025.
Mae ei rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Dr Rounaq Nayak, i wella dealltwriaeth, galluoedd, a sgiliau cynhyrchwyr tystiolaeth, ymchwilwyr polisi, llunwyr polisi, ac ymarferwyr wrth gynnwys pobl â phrofiad bywyd yn eu gwaith. Mae’r Gymrodoriaeth yn gydweithrediad 18 mis rhwng WCPP, a thair Canolfan Beth Sy’n Gweithio arall – y Ganolfan Heneiddio’n Well, Sefydliad Dyfodol Ieuenctid a’r Ganolfan Effaith Digartrefedd.
Yn ddiweddar cwblhaodd Katie ei PhD mewn Seicoleg yn y Brifysgol yn Portsmouth ac mae ganddi gefndir mewn dysgu plant. Mae hi hefyd yn athrawes gymwysedig ym maes ymwybyddiaeth ofalgar plant ac mae'n frwd dros barhau ag ymchwil i effeithiau ymwybyddiaeth ofalgar ar blant yn ei gyrfa ymchwil yn y dyfodol. Mae Katie yn arbenigo mewn ymchwil dulliau cymysg, ac mae ganddi brofiad o gynnal treialon rheoli ar hap, grwpiau ffocws ac ethnograffi mewn ysgolion.