Hyrwyddo Cydraddoldeb Taclo tlodi a iechyd meddwl ar y cyd: dull gweithredu amlasiantaeth December 2, 2022 by cuwpadmin Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi argymell pedwar maes ffocws ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar dlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae un o'r rhain yn ymwneud â llwyth meddyliol a iechyd meddwl: “Mynd i'r afael â'r baich emosiynol a seicolegol sy'n cael ei gario gan bobl sy'n byw mewn tlodi ac allgáu cymdeithasol […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Tystiolaeth a Chymru Wrth-hiliol October 4, 2022 by cuwpadmin Ar 7 Mehefin, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu newydd er mwyn cyflawni Cymru Wrth-Hiliol erbyn 2030. Bydd y gwaith yn cynnwys nodi a dileu'r systemau, strwythurau a phrosesau sy'n cyfrannu at ganlyniadau anghyfartal i bobl o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol. Disgrifiwyd y lansiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fel 'moment […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Hyrwyddo llwybrau allan o dlodi - ac atal peryglon mynd i dlodi September 30, 2022 by cuwpadmin Rhaid i alluogi 'llwybrau' allan o dlodi fod yn un o nodau sylfaenol unrhyw strategaeth wrthdlodi. Ond sut dylai strategaeth o'r fath geisio cyflawni hyn? A sut gallwn ni sicrhau bod y 'llwybrau' hyn yn trosi'n ostyngiadau ystyrlon mewn lefelau tlodi ledled Cymru? Ar draws gwledydd Ewrop, mae hyrwyddo gwaith â thâl wedi dod yn […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Bod yn dlawd yng Nghymru – pam mae ble rydych chi’n byw yn bwysig September 29, 2022 by cuwpadmin Mae nifer o'r heriau a wynebir gan bobl sy'n byw mewn tlodi neu allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn ymwneud â lle maent yn byw. Mae costau byw lleol, fforddiadwyedd tai o ansawdd da, lefelau troseddu, seilwaith digonol, a mynediad at wasanaethau, mannau gwyrdd, cyflogaeth o safon, addysg a hyfforddiant, i gyd yn effeithio ar ansawdd […] Read more »
Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Hyrwyddo Cydraddoldeb Y tanc yn wag: pam fod angen diwygiadau yn yr argyfwng costau byw September 27, 2022 by cuwpadmin Yn ystod misoedd cychwynnol y pandemig, pan oedd mesurau diogelu amrywiol ar waith - fel y codiad o £20 yr wythnos i'r Credyd Cynhwysol – cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth gan Cyngor ar Bopeth gyda phroblemau dyled. Ers mis Hydref 2021, fodd bynnag, pan ddaeth llawer o'r mesurau hyn […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Mater o gostau September 27, 2022 by cuwpadmin Ers degawdau, mae tlodi’n cael ei fesur yn ôl incwm aelwyd o'i gymharu ag incwm aelwydydd eraill. Er bod addasiadau'n cael eu gwneud ar gyfer costau tai a maint y cartref, y mesur allweddol yw faint o arian sy'n dod i aelwyd. Yn yr un modd, mae polisi cyhoeddus ar dlodi wedi canolbwyntio ar incwm […] Read more »
Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Hyrwyddo Cydraddoldeb Beth sy’n creu strategaeth wrthdlodi effeithiol? September 26, 2022 by cuwpadmin Ni wnaeth diffyg strategaeth wrthdlodi atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yn ystod y pandemig i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. O ddarparu arian, talebau neu becynnau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, i ganiatáu i deuluoedd cymwys hawlio grant datblygu disgyblion bob blwyddyn ar […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Creu Cymru Wrth-hiliol May 25, 2021 by cuwpadmin Mae pandemig y Coronafeirws wedi gwneud gweithredoedd i ddileu gwahaniaethau hiliol yng Nghymru yn fwy dybryd. Mae dadansoddiad yn dangos bod y risg o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ymhlith grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn sylweddol uwch na’r risg i bobl o ethnigrwydd Gwyn yng Nghymru. Mae gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Gwreiddio hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig ym myd addysg yng Nghymru March 17, 2021 by cuwpadmin “Hanes pobl ddu yw hanes Cymru, a hanes Cymru yw hanes pobl ddu” Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ( Hydref 2020 ) Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru 2022 yn cyflwyno her ddiddorol ar gyfer symud ymlaen â'r uchelgais o weld cynrychioli persbectif, hanes a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’u gwreiddio ym […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Dyfodol Tecach: Deall Anghydraddoldeb yn ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru February 1, 2021 by cuwpadmin Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru ym mis Mai 2020 gyda'r amcan o nodi syniadau ac atebion ar gyfer ailadeiladu Cymru yn dilyn pandemig y Coronafeirws. Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fwy na 2,000 o ymatebion gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad a chasglodd ystod o farnau - o syniadau am fannau cyhoeddus […] Read more »