Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Llywodraethu a Gweithredu Seilwaith a llesiant yng Nghymru May 25, 2022 by cuwpadmin Seilwaith trafnidiaeth ac amcanion llesiant Mae seilwaith trafnidiaeth fwyaf uniongyrchol berthnasol i'r canlynol o 'amcanion llesiant' Llywodraeth Cymru (Llesiant Cymru: 2021 | LLYW.CYMRU ) ar gyfer 2021-2026: Darparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy – drwy flaenoriaethu a sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus gyflym, gyfleus, fforddiadwy a diogel i/o gyfleusterau ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr, […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu A ddylid codi oedran cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru? February 3, 2022 by cuwpadmin Mae Dr Matt Dickson yn Ddarllenydd mewn Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Ymchwil Polisi (IPR) ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae Sue Maguire yn Athro Anrhydeddus yn yr IPR ym Mhrifysgol Caerfaddon. Bu i’w gwaith ymchwil ar godi oedran cymryd rhan mewn addysg i 18 oed gael ei gyhoeddi’n ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae'n ofynnol […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Haws dweud na gwneud April 14, 2021 by cuwpadmin Sut y gall llywodraethau datganoledig gyflawni polisïau unigryw? Nid yw’r ffaith bod gan lywodraeth y pŵer i wneud rhywbeth yn golygu y gall ei wneud mewn gwirionedd. Felly beth sy'n gwneud y gwahaniaeth? Gwnaethom archwilio'r cwestiwn hwn mewn erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar a ysgrifennwyd gennym gyda Steve Martin. Mae'r cwestiwn yn bwysig oherwydd bod […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Beth allai gwyddoniaeth gweithredu a pharatoi gwybodaeth ei olygu i Ganolfannau ‘What Works’? December 8, 2020 by cuwpadmin Dim ond dau cysyniad yw gwyddoniaeth gweithredu (IS) a pharatoi gwybodaeth (KMb) mewn cyfoeth o syniadau a thermau a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf i gulhau’r blwch rhwng cynhyrchu gwybodaeth a’i defnyddio mewn polisïau ac ymarfer. Mae termau eraill yn cynnwys brocera gwybodaeth, trosglwyddo gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, gwyddoniaeth lledaenu, a chyfnewid gwybodaeth. Datblygwyd y rhan fwyaf […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Llywodraethu a Gweithredu Pam mae amrywiaeth yn bwysig mewn materion penodiadau cyhoeddus November 10, 2020 by cuwpadmin Oherwydd y diffyg amrywiaeth ymysg aelodau byrddau, mae llawer o fyrddau yng Nghymru nad ydynt yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethant, gydag ymgeiswyr Duon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ac ymgeiswyr anabl wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau adroddiad yn ddiweddar ar wella arferion recriwtio mewn penodiadau cyhoeddus a sut gallai […] Read more »
Hyrwyddo Cydraddoldeb Llywodraethu a Gweithredu Sgwrs ar Ddyfodol Cymru November 3, 2020 by cuwpadmin Ar 18fed Medi 2020, ynghyd â staff WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru), cynhalion ni seminar ar y we lle y dadansoddodd Carwyn Jones AS (cyn Brif Weinidog Cymru), Auriol Miller (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru) a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) y llwybrau a’r blaenoriaethau a fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Pandemig y Coronafeirws - cyfle ar gyfer entrepreneuriaid polisi? June 19, 2020 by cuwpadmin Mae wedi dod yn rhyw fath o fantra ‘na all pethau fod yr un fath’ ar ôl pandemig y Coronafeirws. Mae hynny’n rhannol oherwydd ymdeimlad cynyddol na fydd modd i ni weithio, siopa, dysgu a chymdeithasu fel y buon ni, hyd yn oed pan ddeuwn ni’n raddol allan o’r cyfyngiadau symud, os bydd pandemig y […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Rôl llywodraeth leol Cymru mewn byd wedi’r Coronafeirws June 12, 2020 by cuwpadmin Mae rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael ei hamlygu a’i dwysau ar adegau o argyfwng. Mae cynghorau ledled Cymru wedi cydlynu a chyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i’r pandemig Coronafeirws, gan gynnwys dosbarthu dros £500m mewn grantiau i fusnesau a chefnogi ystod eang o bobl a theuluoedd mewn […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Sut y gall dylanwad swyddogion is eu statws ar brosesau llunio polisïau fod yn gryfach na’r disgwyl? April 20, 2020 by cuwpadmin Sut y gall llywodraethau is-genedlaethol, bychan eu tiriogaethau, wneud y gorau o’u sefyllfa? Mae llywodraethau is-genedlaethol megis y rhai datganoledig yn y deyrnas hon yn cyfuno nifer o gyfleoedd a chyfyngiadau’r llywodraethau lleol a gwladol maen nhw rhyngddynt. Mae gyda nhw rai cyfrifoldebau ac adnoddau gwladol eu math megis awdurdod deddfwriaethol a phwerau ariannu, er […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Ehangu cyrhaeddiad rhwydwaith ‘What Works’ March 10, 2020 by cuwpadmin Rydym yn rhan o rwydwaith What Works yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Dyma grŵp o 13 (mae’n cynyddu) o ganolfannau sy’n anelu at wella’r defnydd o dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau mewn amryw o feysydd polisi o addysg, i bolisi i les. Rydym o’r farn bod gennym lawer i’w rannu gyda gweddill rhwydwaith What Works, a […] Read more »