Uncategorized @cy Ymgysylltu â’r cyhoedd a ‘Cymru Iachach’ Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sut y gellid troi’r ymrwymiadau ymgysylltu cyhoeddus sydd yn Cymru Iachach yn rhaglen weithgareddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Nid yw’n hawdd diffinio ymgysylltu; gall olygu pethau gwahanol i wahanol gynulleidfaoedd a gall gynnwys sbectrwm eang o weithgareddau. Er hyn, yr elfen greiddiol yw galluogi’r cyhoedd i gael eu cynnwys mewn […] Read more »
Uncategorized @cy Gallai datganoli nawdd cymdeithasol i Gymru fod yn fuddiol ond daw hefyd heriau sylweddol yn sgil hyn Gallai datganoli’r weinyddiaeth nawdd cymdeithasol i Gymru gynnig manteision ariannol a gwella canlyniadau i hawlwyr, ond byddai’n broses gymhleth a hir a byddai risgiau sylweddol cysylltiedig. Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ym Mhrifysgol Caerdydd yn casglu tystiolaeth am y manteision posibl a’r risgiau. Mae’r ymchwilwyr, gan ddefnyddio profiadau’r Alban a Gogledd […] Read more »
Uncategorized @cy Gweinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru Ar hyn o bryd yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth y DG yw nawdd cymdeithasol, ac eithrio rhai budd-daliadau. Ers datganoli nawdd cymdeithasol yn yr Alban (2018) mae galw o'r newydd wedi bod i adolygu'r system nawdd cymdeithasol yng Nghymru. Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i ni asesu'r materion y byddai'n rhaid eu hystyried er mwyn pennu dymunoldeb […] Read more »
Uncategorized @cy 2019 - Adolygiad December 17, 2019 by cuwpadmin Wrth i flwyddyn gythryblus arall dynnu tua'i therfyn, rydym ni wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gyflawniadau allweddol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2019. Rydym ni'n byw mewn cyfnod diddorol dros ben, ond mae ansicrwydd gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf wedi'i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu darparu tystiolaeth awdurdodol, annibynnol […] Read more »
Uncategorized @cy Sicrhau economi ffyniannus: safbwyntiau o wledydd a rhanbarthau eraill Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r dystiolaeth am ddulliau sydd wedi gwella perfformiad economaidd yn rhai o ardaloedd Ewrop a’r DU. Gall nodi ardaloedd sy’n gymaradwy â Chymru fod yn broblemus, gan nad yw’n bosibl nac yn ymarferol dod o hyd i hanes economaidd neu lwybr datblygu sy’n cyfateb yn union. Serch hynny, credwn y gall […] Read more »
Uncategorized @cy Gwerth undebau llafur yng Nghymru Mae undebau llafur yn rhan annatod o fodel partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru. Yn fwy cyffredinol, mae’n rhan hanfodol o'r dirwedd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y byd. Fe wnaeth TUC Cymru gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ystyried y dystiolaeth ar werth undebau llafur yng Nghymru, a sut y gallent ymateb i […] Read more »
Uncategorized @cy Cydraddoldeb Rhywiol: Dysgu Gwersi gan Wledydd Nordig Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi trafodaethau a gafwyd mewn cyfnewidfa wybodaeth cydraddoldeb rhywiol a hwyluswyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rhwng arbenigwyr o wledydd Nordig, gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, a Chwarae Teg. Nid oes ‘ateb sydyn’ i sicrhau cydraddoldeb rhywiol, na glasbrint ar gyfer llwyddiant; mae golwg wahanol arno mewn gwahanol wledydd, ac mae’n […] Read more »
Uncategorized @cy Mynd i’r afael ag Anghydraddoldeb drwy Gyllidebu ar Sail Rhyw Mae cyllidebu ar sail rhyw yn agwedd at lunio polisi cyhoeddus sy’n sicrhau bod dadansoddiad o ryw yn ganolbwynt i brosesau cyllidebu, cyllid cyhoeddus a pholisi economaidd, fel dull o hyrwyddo cydraddoldeb rhyw. Mae’n adolygiad beirniadol o’r ffordd mae dyraniadau cyllidebol yn effeithio ar gyfleoedd economaidd a chymdeithasol menywod a dynion, ac mae’n ceisio ailstrwythuro […] Read more »
Uncategorized @cy Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn derbyn canmoliaeth am effaith ragorol ar bolisi yng Nghymru Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn canmoliaeth gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy ei chynllun gwobrwyo blynyddol, Dathlu Effaith. Roedd y Ganolfan yn un o ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori Effaith Polisi Cyhoeddus Ragorol mewn seremoni yn y Gymdeithas Frenhinol yn […] Read more »
Uncategorized @cy Wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol: Llywodraeth leol Cymru a chyni Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ymateb cynghorau Cymru i gyni, ar sail cyfweliadau gydag arweinwyr, prif weithredwyr a chyfarwyddwyr cyllid cynghorau Cymru a rhanddeiliaid allanol. Mae cynghorau wedi ymateb i gyni mewn tair prif ffordd: arbedion effeithlonrwydd; lleihau’r angen am wasanaethau cyngor; a newid rôl cynghorau a rhanddeiliaid eraill. Mae llawer o fesurau, er enghraifft […] Read more »