Uncategorized @cy Polisi Mewnfudo ar ôl Brexit Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r opsiynau tebygol a fydd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU pan fydd yn datblygu polisi mewnfudo newydd ar ôl i'r DU adael yr UE, yn ogystal â goblygiadau a risgiau posibl yr opsiynau hyn i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan ystyried y patrymau mewnfudo presennol sy'n gysylltiedig […] Read more »
Uncategorized @cy Defnyddio Sectorau Twf i Leihau Tlodi Mae'r adroddiad hwn yn ystyried sut y gall sectorau twf leihau tlodi drwy gynnig swyddi a chyfleoedd o ansawdd uchel i gamu ymlaen mewn gyrfa. Ar sail yr ymchwil a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac a gynhaliwyd gan yr Athro Anne Green, Dr Paul Sissons a Dr Neil Lee, mae'r adroddiad […] Read more »
Uncategorized @cy Darparu Gwasanaethau Rheilffyrdd Di-ddifidend Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau cyn i'r fasnachfraint bresennol gyda Threnau Arriva Cymru ddod i ben (2018). Ers tro, mae wedi gobeithio creu gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar sail di-ddifidend. Yr awydd i wella gwerth am arian a chyfyngu ar y gallu i wneud elw 'gormodol' sy'n sail […] Read more »
Uncategorized @cy Effeithlonrwydd a Bwlch Ariannu'r GIG yng Nghymru Yn ystod gwanwyn 2016, gwnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ar y cyd â Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, gynnal cyfres o weithdai wedi'u hwyluso er mwyn ystyried sut y gallai effeithlonrwydd 'technegol' pellach helpu i gau 'bwlch ariannu' hirdymor a rhagamcanol y GIG yng Nghymru. Cafodd hyn ei gysylltu â gwaith modelu newydd gan […] Read more »
Uncategorized @cy Polisi Bwyd fel Polisi Cyhoeddus Gofynnodd y cyn-Weinidog Cyfoeth Naturiol a'r cyn-Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddweud wrthynt a oedd strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cynhwysfawr a chyfredol. Gweithiodd y Sefydliad gyda dau o arbenigwyr blaenllaw'r DU ar bolisi bwyd – yr Athro Terry Marsden a'r Athro Kevin Morgan o Athrofa Ymchwil Lleoedd […] Read more »
Uncategorized @cy Gwella Prosesau Asesu Effaith Gofynnodd y Prif Weinidog i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru roi cyngor ar wella prosesau asesu effaith Llywodraeth Cymru. Nododd swyddogion fod angen gwella prosesau asesu effaith fel rhan o raglen yr Ysgrifennydd Parhaol i leihau cymhlethdod. Roedd gwaith mewnol wedi mynd rhagddo, ond awgrymodd fod problemau dyfnach i'w datrys. Gwnaethom weithio gyda Dr Clive […] Read more »
Uncategorized @cy Hybu Iechyd Emosiynol, Llesiant a Gwydnwch mewn Ysgolion Cynradd Gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru roi cyngor arbenigol ar 'yr hyn sy'n gweithio' i ddatblygu gwydnwch emosiynol plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi hyn. Gweithiodd y Sefydliad gyda'r Athro Robin Banerjee a'r Athro Colleen McLaughlin o Brifysgol Sussex […] Read more »
Uncategorized @cy Opsiynau i Gymru o ran Polisi Gofal Plant Gofynnodd y Prif Weinidog i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru am gyngor annibynnol ar ddatblygu opsiynau ar gyfer ehangu cymorth gyda gofal plant yng Nghymru; ac, yn benodol, beth yw effaith bosibl ehangu darpariaeth gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy'n 3 a 4 oed. Gweithiodd y Sefydliad gyda Dr Gillian Paull […] Read more »
Uncategorized @cy Gwella Dealltwriaeth o Benderfyniadau Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth a Chynyddu Nifer y Bobl sy'n Gwneud Penderfyniadau o'r Fath yng Nghymru Gofynnodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru roi cyngor annibynnol ar ffyrdd o wella dealltwriaeth o benderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth a chynyddu nifer y bobl sy'n gwneud penderfyniadau o'r fath yng Nghymru. Mae'r Sefydliad wedi gweithio'n agos gyda'r Athro Jenny Kitzinger (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Celia […] Read more »
Uncategorized @cy Tlodi Gwledig yng Nghymru Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tlodi gwledig fel maes â blaenoriaeth o ran tystiolaeth, ac mae ein gwaith dadansoddi rhagarweiniol ein hunain o'r ymchwil bresennol wedi cadarnhau bod angen tystiolaeth well er mwyn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried y materion sy'n gysylltiedig â thlodi gwledig. Mae canfyddiadau ein […] Read more »