Uncategorized @cy Seilwaith a llesiant hirdymor Mae'r adroddiad sylwadau hwn yn cyd-fynd ag adolygiad cyflym o dystiolaeth am sut mae seilwaith ffisegol yn dylanwadu ar lesiant hirdymor, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i lywio ei dull o gynllunio a buddsoddi mewn seilwaith. Mae'r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o ystod eang o draddodiadau a disgyblaethau ymchwil sy'n dangos sut mae […] Read more »
Uncategorized @cy Prosiect Gweithredu Rhwydwaith What Works Gan adeiladu ar ein gwaith i gynyddu effaith rhwydwaith ‘What Works’ ledled y DU, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cael cyllid gan yr ESRC i weithio gyda’r Athro Jonathan Sharples yn EEF a Chanolfannau eraill ‘What Works’ i roi’r dystiolaeth a’r syniadau diweddaraf ynghylch gweithredu ar waith – sut defnyddir tystiolaeth i wneud penderfyniadau – […] Read more »
Uncategorized @cy Diwygio cyfraith ac arferion etholiadol Cafodd pŵer dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru trwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Roedd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau […] Read more »
Uncategorized @cy Gwasanaethau cymdeithasol a chyfraddau gofal plant yng Nghymru: Arolwg o'r sector Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae’r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au. Yn ogystal, bu gan Gymru fwy o blant yn gyson yn derbyn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth na gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r duedd hon yn destun pryder; yn enwedig […] Read more »
Uncategorized @cy 2021 – Dan Adolygiad Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg byr o’r gwaith a wnaethom yn 2021, gyda hypergysylltiadau i’n hadroddiadau llawn wedi’u hymgorffori. Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad isod. Croeso i'n hadolygiad o rai o uchafbwyntiau gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2021. Yn ystod blwyddyn gynhyrchiol a thoreithiog arall i’w mwynhau, gwnaethom ddarparu tystiolaeth i Weinidogion ac […] Read more »
Uncategorized @cy Heriau a Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru Mae'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gymhleth ac yn amlochrog. Mae materion systemig a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn effeithio ar y broses o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn hwylus, ac mae heriau iechyd penodol a wynebir gan boblogaeth Cymru yn rhoi pwysau cynyddol ar y system. Cynhaliodd […] Read more »
Uncategorized @cy Adferiad ym maes addysg: Ymateb i bandemig y Coronafeirws Mae cau ysgolion o ganlyniad i’r Coronafeirws wedi tarfu’n sylweddol ar ddysgu plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Yn y flwyddyn rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2021, collwyd hyd at 124 o ddiwrnodau ystafell ddosbarth fesul disgybl yng Nghymru. Mae effaith y tarfu hwn ar […] Read more »
Uncategorized @cy Codi oedran cyfranogi mewn addysg i 18 Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal […] Read more »
Uncategorized @cy Codi'r Oed Cyfranogi i 18 Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal […] Read more »
Uncategorized @cy Dysgu gydol oes yw'r allwedd i ryddhau potensial llawn Cymru Dylai Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (CTER) ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu gydol oes, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd. Mae'r astudiaeth, gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn galw am wella hawliau ym maes cyrchu addysg, hyfforddiant a dysgu cymunedol. Dylai’r hawliau gael eu cefnogi gan gyngor gyrfaol ar adegau allweddol wrth i fywydau […] Read more »