Pennu'r Sylfaen Drethu yng Nghymru

Gofynnodd y Prif Economegydd a swyddogion y Trysorlys yn Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, gynnal adolygiad lefel uchel o gryfder y sylfaen drethu yng Nghymru.

Mae'r adolygiad wedi dadansoddi maint a chynaliadwyedd y sylfaen drethu sy'n ategu'r prif drethi datganoledig sy'n denu refeniw (gan gynnwys ardrethi annomestig, treth trafodiadau tir, treth incwm a'r dreth gyngor). Mae'n ystyried cryfderau a gwendidau presennol y sylfaen drethu; yn nodi bygythiadau a chyfleoedd yn y dyfodol; ac yn ystyried y posibilrwydd o gael trethi newydd sy'n denu refeniw.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.