Yn dilyn argymhellion Comisiwn Thomas, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a Chomisiwn y Blaid Lafur ar Ddyfodol y DU, mae Llywodraeth Cymru am ddatganoli maes cyfiawnder i Gymru ac yn credu bod gobaith realistig y gallai rhai elfennau gael eu datganoli cyn bo hir. Felly, maent yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddatganoli gam wrth gam, gan ddechrau gyda'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru y dasg o gynnal ymchwil i gynorthwyo'r gwaith paratoadol hwn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), gan ganolbwyntio ar y mecanweithiau cyflawni posibl a ffyrdd o ddatganoli'r gwasanaeth prawf. Byddai hyn yn ategu gwaith arall sy’n cael ei gynnal gan Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf (PDG).
Mae ein hadroddiad yn ystyried pedwar prif gwestiwn:
- Pa fanteision posibl allai ddod yn sgîl datganoli’r gwasanaeth prawf i Gymru?
- Pa ddulliau a modelau cyflwyno’r gwasanaeth prawf fyddai'n gweithio orau er mwyn cyflawni’r manteision posibl a ddaw yn sgîl datganoli?
- I ba raddau y gellir cyflawni’r manteision heb ddeddfwriaeth sylfaenol?
- Pa ffactorau anneddfwriaethol y dylid eu hystyried wrth ddatganoli’r gwasanaeth prawf, a sut y gellid mynd i'r afael â’r rhain?
Mae Rhan 1 yn rhoi trosolwg o’r prif ystyriaethau a’r opsiynau ymarferol ar gyfer datganoli. Mae Rhan 2 yn ystyried sut mae gwahanol wledydd yn Ewrop yn trefnu eu systemau prawf, gan edrych ar astudiaethau achos sy'n berthnasol i Gymru.
Rydym yn cyflwyno tri phrif opsiwn ar gyfer datganoli’r gwasanaeth prawf i Gymru:
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) fydd yn arwain at gyd-gomisiynu rhai gwasanaethau, ac sy’n debyg i drefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ym Manceinion Fwyaf a mannau eraill;
- Trosglwyddo cyfrifoldeb gweithredol heb gymhwysedd deddfwriaethol, gan roi goruchwyliaeth weinyddol o'r gwasanaeth prawf i Weinidogion Cymru heb unrhyw bwerau deddfu; a
- Chyfrifoldeb deddfwriaethol a gweithredol llawn sy'n rhoi pŵer deddfwriaethol i'r Senedd greu gwasanaeth prawf Cymreig.
Mae pob un o'r opsiynau hyn yn cynnig manteision amlwg ond mae cyfaddawdau’n gysylltiedig â’r rhain hefyd y bydd angen eu hystyried yn ofalus.
Mae ein hadroddiadau'n canolbwyntio ar sut y gallai datganoli’r gwasanaeth prawf ganiatáu i bolisïau gael eu cyflwyno sy'n gwella perfformiad y gwasanaeth prawf, yn hytrach nag yn rhan o ymdrech ehangach i greu cenedl. Yn benodol, mae’n rhoi’r cyfle i ryngweithio’n well â gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes wedi'u datganoli yn ogystal â newid model gweithredu ac amodau gwaith y gwasanaeth.
Rydym yn tynnu sylw hefyd at ystyriaethau pwysig y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn rhan o unrhyw fodel. Mae’r rhain yn cynnwys materion yn ymwneud â’r gweithlu, llywodraethu rhanbarthol, materion trawsffiniol, a rhyngweithio ag elfennau o'r system cyfiawnder troseddol a fydd yn parhau i fod ar lefel y DU, yn enwedig gwasanaeth y carchardai.
Mae nifer o wledydd eraill yn Ewrop wedi ad-drefnu eu systemau prawf dros y degawd diwethaf. Mae hyn, yn bennaf, mewn ymateb i gyni ac maent felly’n rhoi’r cyfle i ddysgu o'r profiadau hyn wrth ddatblygu unrhyw wasanaeth prawf datganoledig. Mae Gwlad Belg yn un achos nodedig gan ei bod wedi datganoli elfennau o’i system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y gwasanaeth prawf, yn 2014. Mae Rhan 2 yn trafod astudiaethau achos Ewropeaidd i Gymru gnoi cil drostynt yng nghyd-destun yr ystyriaethau allweddol ar gyfer datganoli a amlinellir yn Rhan 1.
Nid yw ein hadroddiad yn ceisio argymell llwybr penodol ar gyfer datganoli. Yn hytrach, mae'n ystyried manteision ac anfanteision pob un. Mae'r tri opsiwn yn cynnig cyfleoedd i gyflwyno welliannau i'r gwasanaeth presennol. Maent hefyd yn cyflwyno heriau y bydd angen eu deall a'u datrys yn gynnar yn y broses ddatganoli.