Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Sut byddwn ni’n cyllido gofal cymdeithasol? July 1, 2020 by cuwpadmin Mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos, yn fwy nag erioed, bwysigrwydd cyllido gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn poeni am eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, talu cyflog teg i weithwyr gofal a sicrhau marchnad ofal sefydlog o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol. Mae ymateb i bandemig y Coronafeirws wedi rhoi pwysau cost ychwanegol […] Read more »
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Pandemig y Coronafeirws a phris iechyd June 26, 2020 by cuwpadmin Mae’r pandemig Coronafeirws presennol wedi gosod gofal iechyd ac arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth yng nghanol y drafodaeth gyhoeddus. Mae cwestiynau ynghylch dogni adnoddau megis mynediad at ofal iechyd arbenigol, profi, ac argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu trafod yn ddyddiol. Fe drafodwyd dogni mynediad at welyau a thriniaeth, gyda gweithwyr gofal iechyd ar […] Read more »
Uncategorized @cy Sefyllfaoedd ariannol bregus yn ystod y pandemig: cyfyng-gyngor i awdurdodau lleol June 24, 2020 by cuwpadmin Mae pandemig y Coronafeirws wedi sbarduno newid yn y ffordd rydym ni, fel cymdeithas, yn meddwl am fod yn fregus. Yn hanesyddol, rydym wedi tueddu i ddefnyddio diffiniad moesol i ddisgrifio bod yn fregus, sy’n arwain at gyfres o rwymedigaethau a dyletswyddau sydd wedi’u hymgorffori mewn deddfwriaeth megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014 […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Pandemig y Coronafeirws - cyfle ar gyfer entrepreneuriaid polisi? June 19, 2020 by cuwpadmin Mae wedi dod yn rhyw fath o fantra ‘na all pethau fod yr un fath’ ar ôl pandemig y Coronafeirws. Mae hynny’n rhannol oherwydd ymdeimlad cynyddol na fydd modd i ni weithio, siopa, dysgu a chymdeithasu fel y buon ni, hyd yn oed pan ddeuwn ni’n raddol allan o’r cyfyngiadau symud, os bydd pandemig y […] Read more »
Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Ailadeiladu’n well: pwysigrwydd ysgogiad gwyrdd June 17, 2020 by cuwpadmin Mae’r cyfnod cloi sydd wedi’i orfodi ledled y DU, a sbardunwyd gan y pandemig Coronafeirws, wedi cael effaith enfawr ar y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd o ddydd i ddydd. Er bod cost economaidd y cyfnod cloi yn ddifrifol, un sgil-effaith amlwg yw effaith y cyfnod cloi ar yr amgylchedd. Yn fyd-eang, mae allyriadau […] Read more »
Llywodraethu a Gweithredu Rôl llywodraeth leol Cymru mewn byd wedi’r Coronafeirws June 12, 2020 by cuwpadmin Mae rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael ei hamlygu a’i dwysau ar adegau o argyfwng. Mae cynghorau ledled Cymru wedi cydlynu a chyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i’r pandemig Coronafeirws, gan gynnwys dosbarthu dros £500m mewn grantiau i fusnesau a chefnogi ystod eang o bobl a theuluoedd mewn […] Read more »
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Ailadeiladu ar ôl pandemig y Coronafeirws: cynnal etifeddiaeth o wirfoddoli June 10, 2020 by cuwpadmin Un o sgil-effeithiau cadarnhaol prin y pandemig yw’r cynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli rydym wedi’i weld ledled cymunedau Cymru - o ran y grwpiau llawr gwlad sydd wedi ymddangos ledled y wlad a’r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru a chynghorau lleol. Rydym wedi clywed llawer am sut mae cymunedau wedi dod ynghyd […] Read more »
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Clapio ar ôl y Coronafeirws: Goblygiadau’r pandemig Coronafeirws i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol June 3, 2020 by cuwpadmin Mae’r pandemig Coronafeirws wedi golygu bod llygaid y byd ar waith ein gofalwyr. Bob wythnos, mae llawer ohonom ni wedi bod yn clapio i gydnabod a dangos ein gwerthfawrogiad am y swyddi anodd mae’r rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr allweddol eraill, yn ei gyflawni. Mae’r pandemig yn amlygu, yn […] Read more »
Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau Goblygiadau pandemig y Coronafeirws i economi Cymru May 27, 2020 by cuwpadmin Mae pandemig y Coronafeirws yn cael effaith ddofn a digynsail ar economi Cymru – economi sydd eisoes wedi'i wanhau gan gwtogi a llymder yn y sector cyhoeddus yn dilyn argyfwng ariannol 2008, yn ogystal â'r heriau a achosir gan adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae pandemig y Coronafeirws yn ychwanegu at yr heriau hyn ac yn […] Read more »
Uncategorized @cy Pan fydd hyn ar ben: Codi’n ôl ar ôl Coronafeirws May 20, 2020 by cuwpadmin Mae'n ddigon posibl mai 'Pan fydd hyn ar ben' yw un o'r ymadroddion a ddefnyddir fwyaf yn ystod y pandemig Coronafeirws. Ond a ddaw i ben mewn gwirionedd? Efallai mai sioc sydyn ond byrhoedlog fydd hyn. Ond mae'n llawer yn fwy tebygol y caiff Coronafeirws effaith tymor hir parhaus fydd yn newid ein heconomi a'n […] Read more »