Yr Athro Steve Martin
Steve Martin yw Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ac Athro Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae ganddo hanes hir a llwyddiannus o sefydlu ac arwain timau ymchwil hynod effeithiol a darparu cyngor strategol i lywodraethau a chyrff cyhoeddus.
Mae Steve wedi arwain mwy na 50 o brosiectau ymchwil pwysig ac wedi dal amrywiaeth o rolau cynghori ac anweithredol. Bu’n Gadeirydd ar Banel Arbenigol Llywodraeth y DU ar Lywodraethu Lleol, fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol yr Asiantaeth Gwella a Datblygu, ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr i Rwydwaith newydd Llywodraeth Leol, Cynghorydd Academaidd i’r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac aelod o banel annibynnol ar gyflogau a lwfansau aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Penodwyd Steve yn aelod o Gyngor Beth sy’n Gweithio yn 2015 ac ar hyn o bryd mae hefyd yn aelod o Fyrddau Cynghori’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol a PolicyWise. Mae wedi cynghori’r Undeb Ewropeaidd, Trysorlys y DU, Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraethau Cymru a’r Alban, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Chwaraeon Cymru.
Cyn ei rôl bresennol, Steve sefydlodd y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu enw da rhyngwladol Prifysgol Caerdydd am ymchwil polisi cyhoeddus o'r radd flaenaf, ac ef oedd cyfarwyddwr y Ganolfan. Cyn ymuno â Chaerdydd bu’n arwain y Consortiwm Ymchwil Awdurdodau Lleol yn Ysgol Busnes Warwick lle bu’n dysgu polisi cyhoeddus a strategaeth busnes.
Mae Steve wedi cyhoeddi 95 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a mwy na 200 o adroddiadau polisi ar gyfer llywodraethau a chyrff cyhoeddus. Bu’n gyd-olygydd ‘Policy & Politics’ o 2015-2020, gan oruchwylio cynnydd triphlyg yn ei ffactor effaith, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fyrddau golygyddol Public Money & Management a Policy & Politics.
Mae Steve wedi dysgu ar Academi Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol ac wedi datblygu ac arwain rhaglenni graddedigion ac ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Birmingham, Caerdydd, Warwick ac Aston yn ogystal â gwasanaethu fel arholwr allanol ar gyfer rhaglenni PhD a Meistr yn y DU ac yn rhyngwladol.