Judith Langdon
Jude Langdon yw Rheolwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae hi'n arwain tîm gwasanaethau proffesiynol y Ganolfan ac, fel aelod o dîm Rheoli Uwch y Ganolfan, mae'n cyfrannu at gynllunio a rheoli'r Ganolfan yn y tymor hir.
Mae gan Jude flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, yn bennaf mewn rolau polisi a darparu gwasanaethau llywodraeth leol. Cyn ymuno â'r Ganolfan, bu Jude yn Rheolwr Arloesi Cyfiawnder Cymdeithasol i Gyngor Sir Fynwy, lle bu'n arwain gwaith yr awdurdod ar ddatblygu cymunedol ac ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd Jude a chadeirio rhwydwaith swyddogion trechu tlodi CLlLC.
Mae gan Jude BSc (Anrh) mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Mae hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 2011 ar draws y cyfnodau cynradd ac uwchradd, ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd y Llywodraethwyr yn ei hysgol uwchradd leol.