Ashley Gardiner
Mae Ashley Gardiner yn swyddog gweinyddol profiadol, ar hyn o bryd yn rhan o’r Tîm Gwasanaethau Proffesiynol yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, lle mae’n cefnogi’r tîm amlddisgyblaethol.
Mae ei chefndir amrywiol yn cynnwys gofal cymdeithasol, yswiriant a gweinyddiaeth. Mae hi wedi gweithio fel gweithiwr cefnogi plant a theuluoedd, gan roi cymorth i bobl ifanc ddigartref a phlant mewn gofal. Mae ei gyrfa weinyddol yn ymestyn dros flynyddoedd lawer, gan gynnwys 13 mlynedd ar lefel rheoli.
Yn fwy diweddar, mae Ashley wedi ennill profiad gwerthfawr, mewn swyddogaeth weinyddol, yn gweithio gyda Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd yn Iwerddon, lle cyfrannodd at feysydd fel Iechyd y Cyhoedd, Oncoleg Acíwt, a Gofal Cymunedol Gwell.
Mae gan Ashley gefndir mewn Astudiaethau Gweinyddol, Gwyddor Gymdeithasol (BA Anrh) ac Yswiriant (APA).