Uncategorized @cy

Cosb Gorfforol Rhiant: Canlyniadau Plant ac Agweddau

Gofynnodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Plant a Chymunedau i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad mewnol o'r dystiolaeth ynghylch agweddau plant at gosbau corfforol a'r cysylltiadau rhwng cosbau corfforol gan rieni a'r deilliannau i blant.

Mae agweddau plant at gosbau corfforol gan rieni'n amrywio, ond maent yn negyddol ar y cyfan. Mae plant sydd wedi cael cosbau corfforol neu blant iau'n fwy tebygol o'i gefnogi. Fodd bynnag, cosbau corfforol yw'r math mwyaf difrifol o gosb ym marn plant, ac maent yn dweud eu bod yn eu brifo'n gorfforol ac yn emosiynol. Mae rhai plant yn ei gysylltu รข rhieni crac sydd wedyn yn ei ddifaru.

Mae cannoedd o astudiaethau wedi archwilio'r cysylltiadau rhwng cosbau corfforol gan rieni a'r canlyniadau i blant, ac yn aml maent wedi dod i gasgliadau gwahanol sydd weithiau'n gwrthgyferbynnu ei gilydd. At ei gilydd, mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r casgliadau canlynol ar y cyfan:

  • Mae cosbau corfforol difrifol a cham-drin plant yn niweidio datblygiad plant.
  • Mae cysylltiad rhwng yr amodau a'r ffordd y mae cosbau corfforol fel arfer yn cael eu defnyddio gan rieni'n cydberthyn i ganlyniadau negyddol i blant.
  • Nid yw cosbau corfforol yn ddull mwy effeithiol o newid ymddygiadau yn y tymor byr na mathau eraill o ddisgyblaeth anghorfforol, i blant anufudd.
  • Nid oes unrhyw ymchwil sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid, a'i hail-gynhyrchu, i ddangos bod cosbau corfforol yn cael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau datblygiadol hirdymor.
To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.