Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dod â thystiolaeth a safbwyntiau arbenigwyr ynghyd i ddatblygu arferion gorau ar gyfer comisiynau polisi yn y dyfodol.
Mae 'Comisiynau a'u rôl ym maes polisi cyhoeddus' yn dadansoddi sut i gael sylfaen addas ar gyfer comisiynau polisi, y gwahanol ffyrdd o gasglu tystiolaeth, a sut i reoli gwleidyddiaeth i sicrhau'r effaith orau posibl ar bolisïau.
Mae'r adroddiad yn defnyddio syniadau arweinwyr comisiynau polisi blaenorol, a gasglwyd mewn trafodaeth grŵp breifat, ac ymchwil academaidd berthnasol.
Crëwyd yr adroddiad i lywio'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sydd wedi'i gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, ynghyd â'r holl gomisiynau polisi yng Nghymru yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Craig Johnson, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
"Fel modd o ystyried syniadau, cynnig cyngor gan arbenigwyr, a hwyluso cyfaddawdau, mae comisiynau polisi yn rhan annatod o ddemocratiaeth effeithiol.
"Fodd bynnag, mae'n hawdd iawn i gomisiynau polisi fod â diffyg ffocws, neu fod yn rhy eang, ac i fethu â chael effaith ystyrlon ar bolisïau yn y tymor hir.
"Mae ein hadroddiad yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod yr elfennau sylfaenol yn gywir, casglu tystiolaeth mewn modd priodol, a fframio argymhellion i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu rhannu'n ddarnau a'u dehongli'n anghywir."