Dylai prifysgolion Cymru gyfrannu’n ehangach at gymdeithas drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o estyn allan at y cymunedau o’u cwmpas a chysylltu â nhw, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Mae adroddiad Cynyddu’r cyfraniad dinesig gan brifysgolion, a ysgrifennwyd ar gyfer y Ganolfan gan yr Athro Ellen Hazelkorn a’r Athro John Goddard, yn awgrymu bod gan Weinidogion Cymru rôl i’w chwarae er mwyn dylanwadu ar brifysgolion i ddiwallu ystod ehangach o anghenion ar draws cymdeithas ac economi Cymru.
Mae’r awduron yn cynnig chwech o argymhellion i lunwyr polisïau, gan gynnwys:
- Datblygu clystyrau rhanbarthol o brifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant, a’u gorfodi i weithio ar y cyd
- Gwella cysylltiadau gydag ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn rhoi gwell mynediad i brifysgolion i’r rheiny sydd o gefndiroedd mwy difreintiedig
- Mesur ymgysylltiad dinesig prifysgolion o ran ehangu mynediad, arloesedd a dulliau eraill drwy’r system rheoli perfformiad.
Cafodd yr adroddiad ei lansio fore Mawrth mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd gyda'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC.
Meddai’r Athro Ellen Hazelkorn, un o awduron yr adroddiad:
“Mae gan brifysgolion rôl ganolog ac unigryw mewn cymdeithas. Maent yn gwella ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas ac yn rhannu’r wybodaeth hon er mwyn galluogi pobl i fyw bywydau llwyddiannus a gwerth chweil.
“Mae newidiadau diweddar a’r pwysau sydd ar y gweill yn y dyfodol yn creu amgylchedd ansicr, ac yn y cyd-destun hwn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt wneud rhagor; ymgorffori ymgysylltiad cymunedol yn rhan o’u cenhadaeth graidd, sef addysgu ac ymchwil.
“Nod yr adroddiad yw dechrau trafodaeth am sut y gall prifysgolion fod yn ganolfannau gweithgareddau yn eu rhanbarthau. Drwy estyn allan ac ymgysylltu â chymunedau a’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n eu cefnogi, gall prifysgolion ehangu eu rôl er mwyn helpu i wella cymdeithas yng Nghymru.”