Dyma’r flog gyntaf o gyfres dair rhan am unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru. Mae rhan dau ar gael yma, ac mae rhan tri ar gael yma.
Yma, rydym yn trafod yr hyn a wyddom am unigrwydd fel cysyniad, a’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am unigrwydd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Strategaeth unigrwydd, sydd i fod i gael ei lansio erbyn diwedd mis Mawrth. Daw hyn ar adeg pan fo mwy o ddiddordeb mewn unigrwydd ledled y DU, gyda Llywodraeth y DU yn lansio ei Strategaeth Unigrwydd gyntaf; canolfan les ‘What Works Centre for Wellbeing’ yn rhyddhau adroddiad tystiolaeth Mynd i’r Afael ag Unigrwydd/Tackling Loneliness; a rhyddhau canlyniadau Arbrawf Unigrwydd y BBC. Mae’r rhain yn gamau cyntaf cadarnhaol wrth fynd i’r afael â mater sy’n gysylltiedig ag effeithiau iechyd niweidiol, gan gynnwys cyfraddau uwch o iselder, pryder a marwoldeb, ac un sy’n effeithio ar bob oedran, yn ôl adroddiadau cyson.
Yn gyntaf, mae’n werth egluro rhai o’r cysyniadau sy’n gysylltiedig â phwng unigrwydd ac ynysiad. Er bod y cysyniadau’n gysylltiedig, mae unigrwydd ac ynysiad yn bethau gwahanol ac ni ddylent gael eu defnyddio’r naill am y llall. Yn nodweddiadol, unigrwydd yw teimlad goddrychol person am ansawdd perthnasoedd (pa mor agos neu fel arall mae perthnasoedd person), tra mae ynysiad yn cyfeirio at nifer gwrthrychol y perthnasoedd hyn (faint o berthnasoedd sydd gan berson). Mae’n golygu ei bod hi’n bosibl teimlo’n unig hyd yn oed pan fyddwch chi mewn cysylltiad â llawer o bobl, a bod yn ynysig hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo’n unig. Fodd bynnag, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, bydd pobl yn cael profiad o unigrwydd ac yn ynysiad mewn ffyrdd ychydig yn wahanol ac i raddau gwahanol dros eu hoes.
Unigrwydd yng Nghymru
Mae Cymru yn cydnabod bod unigrwydd yn elfen allweddol o les, felly mae’n olrhain “y ganran o bobl unig” drwy’r Arolwg Cenedlaethol i Gymru. Hyd yma, casglwyd data ar gyfer 2016-17 a 2017-18, gyda phob arolwg yn gofyn i dros 10,000 o bobl ledled Cymru am eu profiad goddrychol o unigrwydd. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n cytuno neu’n anghytuno â chwe gosodiad. Os oedden nhw’n uniaethu â thri neu ragor o osodiadau’n gysylltiedig ag unigrwydd, yna ystyrid eu bod nhw’n unig. Mae’r canlyniadau o 2017-18 yn awgrymu bod 16% o’r bobl yn yr arolwg yn unig, sy’n 1% yn is na data 2016-17.
Mae’r ystadegau hyn yn is nag astudiaethau cenedlaethol eraill, sydd fel arfer yn cofnodi bod cyfartaledd o 25% o bobl yn unig (er bod hyn yn aml yn llawer uwch ar gyfer gwledydd De Ewrop) a hefyd yn llawer is na’r 33% a ganfu Arolwg Unigrwydd y BBC ar gyfer y DU i gyd. Gallech chi feddwl bod hyn yn golygu bod pobl yng Nghymru yn llai unig na’u cymdogion, ond oherwydd nad oes dull y cytunwyd arno o fesur unigrwydd, efallai fod y gwahaniaethau’n codi o’r dull a ddefnyddiwyd yn unig.
Pa Grwpiau Sy’n Unig?
Ychydig iawn o nodweddion grwpiau a oedd yn gysylltiedig ag unigrwydd a oedd â chysylltiad cryf ag unigrwydd ar draws y ddau Arolwg Cenedlaethol i Gymru. O’r nodweddion a oedd â chysylltiad, amlygwyd amddifadedd materol ac oedran yn benodol yn adroddiadau 2016-2017 a 2017-2018 – er ei bod hi’n bwysig cofio mai cydberthynas y mae’r rhain yn ei dangos, nid achosiad!
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod person yn profi amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael mynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Yn 2017-2018, roedd hi’n ymddangos bod y grŵp hwn dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig na’r rhai nad oedden nhw’n profi amddifadedd materol. Mae hyn ychydig yn uwch na chanlyniadau 2016-17, lle roedd 37% o’r rhai a oedd mewn amddifadedd materol yn teimlo’n unig, o’i gymharu â 14% o’r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol.
Roedd oedran yn ffactor arwyddocaol hefyd, gyda’r rhai 65+ oed yn llai tebygol o fod yn unig na rhai 16-64 oed a’r gyfran o bobl unig yn lleihau gydag oedran. Er bod hyn yn rhywfaint o syndod gan fod pobl hŷn fel arfer yn cael eu portreadu fel y rhai sydd fwyaf agored i unigrwydd, adlewyrchir y patrwm hwn yn Arbrawf Unigrwydd y BBC, er bod unigrwydd yn cael ei fesur yn wahanol. Mae’n bwysig tynnu sylw at hyn gan fod unigrwydd yn broblem drwy gydol bywyd.

Er syndod, nid yw data Llywodraeth Cymru yn dangos cysylltiad cyson rhwng lle mae rhywun yn byw a’r tebygrwydd iddo/iddi fod yn unig. Yn 2016-17, roedd y data’n awgrymu bod pobl mewn ardaloedd trefol mewn mwy o berygl, ond yn yr arolwg diweddaraf, nid oedd cysylltiad rhwng unigrwydd a daearyddiaeth.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae’r drafodaeth uchod yn awgrymu, er bod mesur unigrwydd yn anodd a rhywfaint yn ddadleuol, fod cynnydd go iawn wedi’i wneud wrth geisio adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer unigrwydd yng Nghymru. Er mwyn cryfhau’r ymdrech hon, dylai ymchwil barhau i gael ei gasglu am y blynyddoedd dilynol, yn ogystal â rhoi gwerth ar ragor o ymchwil hydredol.
Yn Rhan Dau rwy’n trafod yr hyn y mae’r cysyniadau hyn a’r dystiolaeth sydd ar gael yn ei olygu i ymyriadau unigrwydd posibl yng Nghymru.