Dros y 12 mis diwethaf, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi bod yn archwilio beth yw stigma ynghylch tlodi, o ble mae’n dod, pam ei fod yn bwysig, beth sy’n gweithio i fynd i’r afael ag ef a beth allwn ni yn WCPP ei wneud i alluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyrchu tystiolaeth sy’n llywio eu gweithredoedd i atal a mynd i’r afael â stigma ynchylch tlodi, yn hytrach nag ychwanegu ato. Yma rydym yn rhannu pum mewnwelediad allweddol yr ydym wedi’u darganfod hyd yn hyn, a’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn yn y dyfodol.
- Mae stigma ynghylch tlodi yn effeithio ar gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru, ond ar rai grwpiau yn fwy nag eraill. Fel y canfu ein harolwg gyda Sefydliad Bevan, mae chwarter o oedolion yn adrodd eu bod wedi profi stigma ‘weithiau’, ‘yn aml’ neu ‘bob amser’. Mae’r profiadau hyn yn llawer mwy cyffredin ymhlith pobl iau, derbynwyr budd-daliadau, pobl sy’n byw mewn tai rhent a phobl ag anableddau. Mae pobl sy’n profi ansicrwydd bwyd yn dweud eu bod yn derbyn deirgwaith yn fwy o stigma na’r rhai sydd ddim.
- Mae stigma ynghylch tlodi yn cael ei gynhyrchu drwy’r ffordd yr ydym yn trin ein gilydd, yn ogystal â thrwy sefydliadau a strwythurau, megis gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a gwleidyddiaeth. Mae mwyafrif o boblogaeth Cymru (87%) yn gweld stigma ynghylch tlodi strwythurol – drwy’r cyfryngau, gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus – ar waith ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’. Mae hyn yn awgrymu’n gryf bod stigma ynghylch tlodi yn fater strwythurol yn ogystal â mater rhyngbersonol.
- Mae stigma ynghylch tlodi yn cynyddu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi. Mae ein papur briffio polisi yn dangos bod stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysu cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill.
- Mae tystiolaeth ymchwil amrywiol a chyfoeth o fewnwelediadau seiliedig ar ymarfer am yr hyn sy’n gweithio i liniaru stigma ynghylch tlodi. Gwyddom fod ysgogwyr allweddol stigma ynghylch tlodi yn cynnwys cynlluniau polisi sy’n stigmateiddio, gwasanaethau biwrocrataidd a dad-ddyneiddiol, naratifau cyfryngau a gwleidyddol ac agweddau a rhagfarnau cymdeithasol. Mae tystiolaeth ar ‘beth sy’n gweithio’ i fynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi yn dal i ddod i’r amlwg ac mae angen eu dwyn ynghyd.
- Mae yna awydd i wneud rhywbeth am hyn. Mae mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi eisoes yn flaenoriaeth ymhlith llywodraethau cenedlaethol a llawer o lywodraethau lleol yng Nghymru, gan gynnwys yng Ngheredigion ac Abertawe. Mae rhai o ysgogwyr stigma ynghylch tlodi – yn enwedig o ran cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus – ymhell o fewn rheolaeth gwasanaethau cyhoeddus, ac nid ydynt o reidrwydd yn hynod gostus i fynd i’r afael â nhw.
Yn seiliedig ar y mewnwelediadau hyn, ac yn dilyn cwmpasu ac ymgysylltu helaeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i:
- Sefydlu Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Ynghylch Tlodi. Bydd hyn yn darparu lle ac adnoddau i ddod ag ymarferwyr, llunwyr polisi, ymchwilwyr ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd i rannu tystiolaeth a mewnwelediadau, i lywio ymdrechion i atal a mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi. Byddwn yn rhannu ein hymchwil ein hunain drwy’r Rhwydwaith, yn ogystal â gwahodd eraill i rannu eu hymchwil, eu hymarfer a’u syniadau. Bydd y Rhwydwaith hefyd yn cynhyrchu syniadau ar gyfer gweithredu y gallwn ni a/neu eraill eu datblygu.
- Cynnal rhaglen o waith seiliedig ar le yn Abertawe, gan weithio gyda Chomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe, y Gwasanaeth Cymunedol a Gwirfoddol a’r Cyngor i gyflwyno tystiolaeth leol, mewnwelediad ac arbenigedd i sgwrs ag ymchwil academaidd ryngwladol, i gyd-greu strategaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i atal a mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi yn lleol.
- Cefnogi a hysbysu Cymunedau Ymarfer Tlodi Plant a arweinir gan Lywodraeth Cymru, drwy fwydo tystiolaeth a mewnwelediadau o’n gwaith ehangach i lywio’r egwyddor allweddol o greu ‘gwasanaethau caredig a thosturiol’ a fydd yn rhedeg ar draws pob un o’r pum Cymuned Ymarfer a chefnogi Amcan 4 y Strategaeth Tlodi Plant i ‘fynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi’.
- Cynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth. Er mwyn llywio pob un o’r tri llinyn gwaith a ddisgrifir uchod, byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn y Gynghrair Tlodi a’r Scottish Policy and Inequality Research Unit i ddwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael sy’n ymwneud â’r hyn sy’n gweithio i atal a mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi.
Byddwn yn myfyrio ar ein hymagwedd a’n heffaith yn barhaus gyda chymorth ymchwilydd effaith sefydledig a chymorth gan ein Cymrawd Arloesedd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a fydd yn ein cefnogi i fyfyrio’n feirniadol ar ein hymagwedd at gyfranogiad.
Er bod llawer o brif ysgogwyr tlodi – yn enwedig polisi macro-economaidd, cyllidol a nawdd cymdeithasol – y tu allan i reolaeth llywodraeth leol a chenedlaethol Cymru, mae mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi yn rhywbeth y gallwn ni i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch, yn enwedig cynllunwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac elusennol. Ac rydym wedi’n calonogi bod cymaint o frwdfrydedd ymhlith gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda ni ac eraill i gael effaith gyfunol ar y mater hwn, i wella bywydau’r rhai sy’n profi caledi materol.
Mae ein papur briffio polisi ar Drechu Tlodi sy’n Gysylltiedig â stigma yma.
Os hoffech chi gael gwybod mwy neu gymryd rhan yn unrhyw un o’r meysydd hyn o waith, cysylltwch â Charlotte Morgan +44 (0)29 287 5345 charlotte.morgan@wcpp.org.uk