Goresgyn heriau cyllido gwaith ôl-osod: Llwybr at gyflawni sero net

Mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn wynebu her sylweddol o ran cynyddu’r ddarpariaeth ôl-osod i fodloni nodau sero net, tlodi tanwydd ac iechyd. Ar draws y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd rydym yn ôl-osod tua 250,000 o gartrefi bob blwyddyn, ond er mwyn cyrraedd ein targedau mae angen i ni gynyddu hyn i 1.5 miliwn o gartrefi bob blwyddyn erbyn 2035. Mae’r cynnydd chwephlyg hwn yn hanfodol i gyflawni cyfanswm o 11.8 miliwn ôl-osod yn Lloegr, 1 miliwn yng Nghymru, 1.2 miliwn yn yr Alban a 300,000 yng Ngogledd Iwerddon, a dim ond os ydym yn targedu EPC C ar gyfer pob cartref yw hynny. Mae llawer yn y diwydiant yn dweud bod angen i ni fynd ymhellach o lawer. Fodd bynnag, mae’r cyd-destun cyllido presennol, a’r cyllid sydd ar gael, yn cyflwyno nifer o rwystrau i’r ehangu hwn. 

Nid yw’r cyllid cyffredinol sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigon i ddiwallu anghenion y 6 miliwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig sy’n byw mewn tlodi tanwydd. I Gymru, mae hyn yn 14% o’r holl gartrefi – ac amcangyfrifir y bydd ôl-osod pob cartref sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn costio dros £4.8bn.  

Ar ben hynny, mae’r opsiynau cyllido sydd ar gael ar hyn o bryd yn aml yn llai na chost lawn mesurau ôl-osod hanfodol a gwaith galluogi. Mae cyfuniad o ddibyniaeth ar grantiau a chylchoedd anrhagweladwy cyllid grant yn arwain at lif gwaith cyfnewidiol i gwsmeriaid ac i’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rhwystrau gweinyddol cymhleth a’r gofynion cymhwysedd ar gyfer cynlluniau sy’n cael eu hariannu gan grantiau yn golygu bod y broses hyd yn oed yn fwy heriol a chymhleth. 

Mae cwmpas y rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd yn rhy gul hefyd. Nid ydynt yn ystyried costau cynyddol a threuliau annisgwyl. Mae’r gronfa ariannu gyffredinol yn rhy fach i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn effeithiol ac i ôl-osod yr holl dai cymdeithasol. Mae ceisiadau cystadleuol a therfynau amser tynn i wario yn creu teimlad ffug o brinder, gan ychwanegu pwysau diangen sy’n gallu effeithio ar y cyflawni ac o bosibl ar ansawdd y gwaith ôl-osod. Mae deiliadaeth neu incwm hefyd yn cyfyngu ar y rhan fwyaf o opsiynau cyllido. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd gweithredu dulliau ehangach sy’n seiliedig ar leoedd a chynyddu ôl-osod. 

Er mwyn chwalu’r rhwystrau hyn, mae angen i ni ddatblygu atebion arloesol fel benthyciadau cost isel, modelau gwres-fel-gwasanaeth, a chymhellion treth. Mae modelau ariannol integredig a chynnyrch morgais arbenigol hefyd yn hanfodol i gefnogi’r twf hwn. Er mwyn i ragor o brosiectau ôl-osod lwyddo, mae angen i’r sectorau ôl-osod a chyllid gydweithio’n agos. Er enghraifft, mae hyfforddi broceriaid morgeisi i godi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau sydd ar gael yn hanfodol, gan eu bod yn delio â’r rhan fwyaf o geisiadau am forgeisi. Mae angen rhagor o hyder ar gyllidwyr hefyd wrth reoli atebolrwydd wrth weithio gyda phartneriaid ôl-osod. Hefyd, dylid arfogi’r sector cyllid i ddylunio atebion hawdd eu defnyddio, er mwyn iddi fod yn hawdd i gwsmeriaid gael gafael ar yr arian sydd ei angen arnynt. Mae cwsmeriaid yn ymddiried mewn banciau ac mae banciau’n gallu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’u haddysgu am y dewisiadau hyn. Mae mentrau fel cartref ffug sero net Barclays-British Gas yn Plymouth yn enghraifft werthfawr i ddysgu ac i fireinio’r dulliau hyn. 

Dylid hefyd rhoi blaenoriaeth i sefydlu cynnig cyllido gwaith ôl-osod cyson rhwng y banciau, gan godi’r cap ar y benthyciad uchaf i £25,000. Gallu cael gafael ar gyllid fforddiadwy ar log isel yw un o’r cymhellion cryfaf i gwsmeriaid sy’n awyddus i uwchraddio eu cartref. 

Er mwyn cyflawni ar raddfa fawr, mae gan awdurdodau lleol gyfle unigryw i arwain y ffordd o ran ôl-osod drwy gysylltu darparwyr sgiliau a hyfforddiant, busnesau lleol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau ariannol i greu siopau un stop ar gyfer gwasanaethau ôl-osod. Byddai’r hybiau hyn yn helpu i symleiddio’r gofynion cynllunio fel nad ydynt yn arafu prosiectau ôl-osod, ar yr un pryd â throi stoc tai lleol yn lle profi ar gyfer technolegau newydd. 

Maes allweddol arall mae angen ei wella yw diwygio system y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Mae ein hadolygiad o wybodaeth am y diwydiant ac adborth gan y sector wedi tynnu sylw at nifer o broblemau gyda’r system EPC bresennol. Cafodd yr EPC presennol ei ddylunio fel metrig cost i ddangos pa mor ddrud neu rad ydy gwresogi cartref, gan hepgor gwybodaeth hanfodol am ddefnyddio ynni ac allyriadau carbon, ac felly nid yw’n gwneud fawr ddim i hyrwyddo datgarboneiddio gwres. Ar ben hynny, mae’r data mewn EPCs yn aml yn annibynadwy oherwydd dilysrwydd data gwan, tybiaethau diffygiol, a modelu anghywir. 

Mae EPCs hefyd yn colli’r cyfle i ymgysylltu perchnogion tai â pherfformiad ynni eu cartref. Nid yw’r adroddiadau’n hawdd eu deall, ac mae’r argymhellion yn aml yn amwys neu’n anodd eu gweithredu. Gan fod y diwydiant cyllid yn dibynnu ar EPCs i adrodd ac i werthuso ôl troed carbon eu portffolios, byddai metrigau carbon mwy cywir a dibynadwy yn helpu i ddatgloi cyllid gwyrdd i uwchraddio adeiladau. 

Byddai gwneud EPCs yn haws i ddefnyddwyr eu deall–gyda chyfeiriadau clir, dolenni defnyddiol, a chamau nesaf syml–yn gwella ymgysylltiad yn sylweddol. Mae ein rhwydwaith hefyd yn credu y dylai EPCs ystyried ffactorau iechyd a llesiant, gan roi gwybodaeth am sut gallai amgylchedd cartref effeithio ar ei breswylwyr. Byddai hyn yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwell ansawdd aer dan do, gwell cysur thermol, a strategaethau i leihau’r risg o lwydni. 

Yn ddiweddar, mae’r National Retrofit Hub wedi bod yn edrych ar sut mae cryfhau’r cysylltiadau rhwng cyllid a chyflawni gwaith ôl-osod. Mewn trafodaeth bwrdd crwn, gofynnwyd y cwestiwn, ‘Ydy integreiddio cyllid yn uniongyrchol i gyflawni gwaith ôl-osod i’r sector sy’n gallu talu yn gallu arwain at ganlyniadau gwell a chynyddu’r nifer sy’n gwneud hyn?’ Er bod mabwysiadwyr cynnar wedi bod yn hanfodol i brofi cynnyrch ariannol sydd eisoes ar gael, mae cynyddu lefel y gwaith ôl-osod i farchnad ehangach yn golygu mynd i’r afael ag amrywiaeth o anghenion unigryw. Fe gawsom wybodaeth gan brosiectau Cyflymydd Cyllid Cartrefi Gwyrdd Llywodraeth y DU, gan gynnwys Parity Projects, People Powered Retrofit, Trustmark, a Lendology, sydd i gyd yn datblygu modelau arloesol sy’n dod â chyllid i mewn i’r gwaith o gyflawni gwaith ôl-osod. 

Er mwyn gwireddu manteision llawn ôl-osod—gwell iechyd, diogelwch ynni, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ac arbed costau—mae angen inni ddefnyddio’r manteision hyn i greu buddsoddiad. Mae mentrau felcymdogaethau sero net yn gallu dangos gwerth dull cynhwysfawr o ôl-osod ar raddfa, gan ddangos yr effaith drawsnewidiol ar gymunedau ac ar yr economi. 

Mae’r llwybr i gynyddu lefel y gwaith ôl-osod yn heriol, ond mae modd goresgyn y rhwystrau hyn drwy feithrin cydweithrediad rhwng y sectorau cyllid ac ôl-osod, diwygio’r system EPC, a datblygu dulliau cynhwysfawr sy’n seiliedig ar leoedd. Mae hi’n hen bryd cofleidio potensial ôl-osod, nid dim ond fel ffordd o gyflawni’r nod, ond fel catalydd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy, cadarn a theg. 

 

Mae Rachael Owens yn Gyd-gyfarwyddwr y National Retrofit Hub, lle mae hi’n arwain yr ymdrechion i gydlynu, i eiriol ac i gyflymu’r gwaith o ôl-osod ar draws y DU. 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.