CPCC ac Achub y Plant yn rhoi llwyfan i bobl ifanc i fynd i'r afael â stigma tlodi

Y thema ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw cymuned – dod at ein gilydd ar gyfer iechyd meddwl.

Fel rhan o waith Rwydwaith Deall Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), fe drefnodd CPCC ac Achub y Plant Cymru fod pobl ifanc o ddwy ysgol yn Ne Cymru yn dod ynghyd mewn digwyddiad arbennig.

Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth y bobl ifanc rannu eu hymchwil gyda’r rhai sy’n llunio polisïau, ymgynghorwyr, ac arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd, gan dynnu sylw at yr hyn sy’n arwain at dlodi a stigma, ac effeithiau’r rhain ar eu cenhedlaeth nhw. Fe wnaeth y grŵp hefyd edrych yn fanylach ar wahanol ddatrysiadau posibl a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc a’u cymunedau.

Cyfeiriodd y bobl ifanc at bedwar prif faes maen nhw’n meddwl sydd angen mynd i’r afael â nhw – mae’r themâu hyn yn cael eu trafod mewn adroddiad y maent yn bwriadu ei gyhoeddi. Y themâu yw:

  • Arian a chymorth, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl
  • Mynediad at gyfleoedd gan gynnwys addysg a chwarae
  • Perthnasoedd iach a phositif
  • Llais a pharch

Rhannodd y bobl ifanc deimladau cryfion am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar lesiant meddyliol a chorfforol eu cyfoedion fel: “Mae stigma tlodi yn dweud bod pobl mewn tlodi yn ddrwg. Tlodi sy’n ddrwg, nid pobl mewn tlodi”.

Mae stigma tlodi yn dweud bod pobl mewn tlodi yn ddrwg. Tlodi sy'n ddrwg, nid pobl mewn tlodi.
Rhannodd pobl ifanc eu ymchwil

Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd WCPP, sy’n arwain gwaith y ganolfan ar stigma tlodi: “Mae cydweithio ag Achub y Plant Cymru wedi bod yn bleser o'r cychwyn cyntaf.

“Roedd y bobl ifanc wedi paratoi’n dda, ac fe wnaethant roi cyflwyniad dylanwadol dros ben i’r rhai sy’n llunio polisïau ac i ymarferwyr allweddol.

“Dywedodd un o’r merched rhywbeth wnaeth aros yn fy nghof sef: 'Mae stigma tlodi yn dweud bod pobl mewn tlodi yn ddrwg. Tlodi sy’n ddrwg, nid pobl mewn tlodi.'

“Byddwn ni’n defnyddio'r hyn rydym ni wedi ei ddysgu yn y digwyddiad Grym Llais yn ein gwaith ar stigma tlodi er mwyn rhoi gwybod i ymarferwyr a llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol ac ymarferwr am effeithiau stigma ar bobl ifanc ac er mwyn datblygu datrysiadau i’r sefyllfa ar lefel leol a chenedlaethol.”

Ychwanegodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Mae’r bartneriaeth gyda’r CPCC wedi galluogi pobl ifanc sy’n rhan o’n prosiect Grym Llais i sgwrsio’n uniongyrchol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am y newidiadau yr hoffent eu gweld yn digwydd er mwyn mynd i’r afael â stigma tlodi yng Nghymru.

“Roedd hi’n braf gweld oedolion a phobl ifanc yn rhannu gofod ac yn meddwl am ddatrysiadau i fynd i'r afael â rhai o’r materion sy’n effeithio fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

“Maen nhw wedi dweud wrthym ni mor bwysig yw cael llais a chyfle i siarad am bwysigrwydd plentyndod gyda’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol a chenedlaethol. Roedd cael rhywle diogel i chwarae a chwrdd yn lleol yn bwysig iawn iddynt. Bydd hi’n braf gweld sut bydd y prosiect yn datblygu.”

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.