Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru bydd angen partneriaethau ystyrlon sy’n pontio’r bwlch rhwng y sector cyhoeddus a’r cymunedau y mae’n eu cefnogi. Mae gwaith ymgysylltu diweddaraf WCPP yn datgelu bod awydd a pharodrwydd i gydweithio rhwng sectorau yng Nghymru, a sail dystiolaeth i gefnogi hynny, ond bod rhwystrau yn dal i atal cydweithio parhaus rhwng y sectorau cymunedol a chyhoeddus. Er ein bod yn cydnabod nad oes atebion syml er mwyn chwalu’r holl rwystrau hysbys ac anhysbys sy’n atal cydweithio, rydym wedi bod yn edrych beth arall y gallwn ei wneud fel canolfan dystiolaeth i helpu i ysgogi a meithrin ymddygiadau ac arferion mwy cydweithredol.
Er 2023, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) wedi datblygu sail dystiolaeth sy’n gysylltiedig â chydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024-25) rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd gwell o drosi’r dystiolaeth hon yn weithredu. Gan adeiladu ar waith cwmpasu cychwynnol, rydym wedi:
- Cynnal tri gweithdy dylunio er mwyn dod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i brofi syniadau a chanfod anghenion y byd go iawn.
- Arwain cyfweliadau un-i-un â rhanddeiliaid allweddol ac ymgysylltu â’n rhwydwaith ehangach yng Nghymru er mwyn dilysu mewnwelediadau ein gweithdai.
- Cynnal adolygiad desg o offer ac adnoddau sy’n bodoli’n barod, ac sydd ar gael i’r cyhoedd, y gallem ddysgu rhywbeth ohonynt.
Nod yr ymgysylltu hwn oedd ceisio deall beth arall y gallai fod ar ymarferwyr ei angen er mwyn defnyddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Nid ceisio canfod yr ateb oedd nod yr ymgysylltu. Yn hytrach, roedd yn ceisio cael mewnwelediad dyfnach, a chanfod a oes gwir alw am ddatblygu offeryn neu adnodd i gefnogi gweithredu, ac os oes: Beth sydd ei angen? Pwy sydd ei angen? Beth allen nhw fod eisiau ei wneud, ei brofi, a’i gyflawni drwy ryngweithio â’r offeryn/adnodd? Yn y blog yma rydym yn tynnu sylw at rai o’r prif bethau a ddysgwyd ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud nesaf.
Y prif bethau a ddysgwyd o’n gweithgareddau ymgysylltu
Dangosodd y gweithdai frwdfrydedd a rhwystredigaeth. Roedd llawer o drafodaethau’n archwilio’r rhwystrau diwylliannol, strwythurol, ac ymddygiadol sy’n atal cydweithio. Gall y rhwystrau hyn greu partneriaethau anghyfartal, neu ddisgwyliadau anghydnaws, rhwng y gymuned a phartneriaid cyhoeddus yn deillio o wahanol gyllidebau, strwythurau llywodraethu, systemau monitro, a ffyrdd o weithio a all achosi i’r sectorau hyn weithio ‘gyda’i gilydd’ ac ar wahân yr un pryd.
Pan ofynnwyd beth allai helpu i bontio’r bwlch gweithredu, mynegodd y rhanddeiliaid bryderon ynglŷn â datblygu ‘pecyn cymorth arall’ na fyddai’n cael ei ddefnyddio o bosibl. Roeddent yn ein hannog i feddwl am hirhoedledd ac effaith o’r dechrau un — er enghraifft, drwy ymwreiddio’r hyn sy’n cael ei ddatblygu mewn arferion a phrosesau sy’n bodoli’n barod — er mwyn mynd ymhellach na’r adnoddau presennol a lleihau’r risg o ‘eistedd-ar-silff’. Tri o’r prif bethau y gofynnwyd amdanynt oedd datblygu cyfuniad o offeryn digidol, yn cael ei ategu gan ryngweithio dynol, a fydd yn:
- Helpu i bontio’r lefel strategol â’r lefel leol, gymunedol
- Darparu cysylltiadau clir ag arferion da ac enghreifftiau ohonynt
- Cysylltu defnyddwyr â rhwydwaith ehangach o gefnogaeth, tystiolaeth ac adnoddau
Er nad ydym yn siŵr a fydd cyfuno’r dynol a’r digidol yn ddichonadwy, pwysleisiodd llawer fod angen cysylltiadau dynol gan eu bod yn teimlo y byddai’n amhosibl i adnodd digidol ddarparu gwybodaeth gyfredol, berthnasol yn gyson y gall defnyddwyr ei chymhwyso er mwyn canfod eu ffordd o gwmpas y strwythurau presennol a/neu oresgyn rhwystrau penodol sy’n atal cydweithio.
Y prif bethau a ddysgwyd o’n hadolygiad desg
Er mwyn dysgu o’r arferion presennol ac osgoi dyblygu, fe wnaethom adolygu 36 o adnoddau a nodwyd gan y rhai a ddaeth i’r gweithdai a thrwy chwiliadau rhyngrwyd ehangach. Datgelodd yr adolygiad desg fylchau amlwg a chyfleoedd i wella:
- ar hyn o bryd nid oes adnodd neu offeryn cysylltiedig â chydweithio amlsector sy’n rhyngweithiol, yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac yn gyfredol.
- mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau presennol yn ffeiliau PDF sefydlog, llawer â chysylltiadau wedi’u torri a dim llawer o dystiolaeth o ddefnydd neu effaith.
- nid oedd yr un o’r offer a adolygwyd yn galluogi swyddogaeth ddiagnostig yn llawn nac yn darparu galluoedd llywiwr—nodweddion y cyfeiriwyd atynt dro ar ôl tro gan y bobl a ddaeth i’r gweithdai fel rhai pwysig.
Pwynt pwysig a ddysgwyd o’r adolygiad hwn oedd y gallai’r weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr offeryn/adnodd, a’r heriau technegol a chysylltiedig ag adnoddau sy’n gysylltiedig â’i wireddu, egluro pam nad oes adnodd o’r math hwn yn bodoli ar hyn o bryd. Maes nad ydym wedi edrych arno eto yw a allai datblygu cymwysiadau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol hygyrch helpu i wneud ein gweledigaeth yn fwy dichonadwy o safbwynt technegol.
Pwyntiau a ddysgwyd a’r camau nesaf
Pan oeddem yn dechrau’r gwaith hwn roeddem yn amheus a oedd galw am offeryn neu adnodd arall, gan fod cynifer yn bodoli’n barod, ond erbyn y diwedd rydym wedi ein hysbrydoli gan faint y diddordeb parhaus a’r momentwm a grëwyd gan y gyfres o weithdai. Rhoddodd y momentwm hwn ddigon o hyder i WCPP roi’r her hon allan ar dendr er mwyn edrych ar yr ystod o bartneriaid ac atebion posibl a allai fod yn bodoli. Rydym yn gobeithio symud ymlaen â’r gwaith hwn yn hydref 2025 a thrwy 2026.
Nid ydym yn disgwyl creu ateb i gydweithio amlsector rhwng y sectorau cymunedol a chyhoeddus, ond rydym yn gobeithio y gallwn gymryd camau ystyrlon tuag at chwalu rhwystrau ac ategu ymdrechion ehangach er mwyn adeiladu cydweithio effeithiol, mwy cyfartal i wella llesiant cymunedol. Nid ydym ychwaith yn disgwyl i bartner ymgymryd â’r her hon ar ei ben ei hun. Er mwyn stiwardio’r prosiect hwn ar y cyd, rydym wedi creu Grŵp Llywio yn cynnwys safbwyntiau amrywiol o fewn y sector a chyfleoedd posibl i brofi’r offeryn yn y byd go iawn.
Os hoffech ymwneud â’r gwaith hwn, dilyn ein camau nesaf, neu drafod unrhyw rai o’r mewnwelediadau hyn, cysylltwch â charlotte.morgan@wcpp.org.uk.
Os hoffech dendro am y gwaith hwn, neu ein helpu i rannu gwybodaeth am y cyfle, ewch i’n tudalen dendro.