Gan fod mwy o sylw’n cael ei roi i ddylanwad Sefydliadau Broceru Gwybodaeth, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i ddeall maint eu dylanwad, ac i wneud y mwyaf ohono. Bydd yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn dod i ddeall yn well beth yw’r berthynas rhwng arferion gyrru gwybodaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’u dylanwad ar y ffordd y mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio ym maes polisi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y bwriad yw canfod ateb i'r cwestiwn isod:
Sut mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dylanwadu ar gyfraniad tystiolaeth at bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Mae Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig wrthi’n gweithio â thimau prosiect i brofi a gwella cyfres o ddulliau amrywiol a fydd yn helpu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i fesur dylanwad eu prosiectau:
- Mesur dylanwad
- Mapio a dadansoddi Rhanddeiliaid
- Cadw cofnod adfyfyriol o ddylanwad
- Sesiynau adfyfyrio
- Arolygon a chyfweliadau â rhanddeiliaid
- Naratif y dylanwad
Mae’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn gweithio ar dri phrosiect ar hyn o bryd: Stigma tlodi, Sero Net 2035, a chreu adnodd cydweithio rhwng sawl sector. Bydd datblygu'r dulliau hyn yn galluogi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ystyried sut i ganoli dulliau i fesur dylanwad eu gwaith.
Yn ogystal â llywio’r ffordd y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn mesur dylanwad eu prosiectau, mae'r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig hefyd yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid prosiect allanol ac yn arwain sesiynau adfyfyriol gyda staff Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wrth iddynt gwblhau prosiectau.