Arwain y gwaith o roi tystiolaeth ar waith

Fe wnaethom gynnal adolygiad o lenyddiaeth ar y ffactorau sy'n pennu effeithiolrwydd canolfannau tystiolaeth. Fe dynnodd sylw at arweinyddiaeth fel dylanwad allweddol ar eu llwyddiant ond datgelodd mai ychydig iawn o ddadansoddiad empirig sydd wedi’i gynnal o'r hyn y mae arweinwyr canolfannau tystiolaeth yn ei wneud mewn gwirionedd, y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, a sut maen nhw'n eu caffael.

Er mwyn helpu i lenwi’r bwlch, fe gynhaliwyd cyfweliadau gydag arweinwyr What Works Centres, canolfannau tystiolaeth rhanbarthol, ac arsyllfeydd polisïau yn y DU. Daeth i’r amlwg inni fod angen cyfuniad anarferol o sgiliau arnyn nhw/ Roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn hynod gredadwy wrth ymwneud â llunwyr polisïau, academyddion ac arianwyr. Hefyd, roedd angen iddyn nhw fod yn arweinwyr tîm effeithiol, a gallu datblygu strategaeth, gweithio'n dda gyda'u byrddau, a rheoli cyllidebau mawr a rhaglenni cymhleth. Roedd eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu i wneud i bethau ddigwydd, ymateb yn gyflym i anghenion llunwyr polisïau, a'r gwydnwch i ddal ati yn wyneb heriau sylweddol.

Nid oedd arweinwyr y ganolfan dystiolaeth a gyfwelwyd gennym wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y rôl. Roedd y rhan fwyaf wedi gorfod dysgu wrth wneud eu gwaith. Rydym yn argymell creu cyfleoedd mwy strwythuredig fel bod arweinwyr yn gallu rhannu profiadau â'i gilydd yn ogystal â gwell hyfforddiant a datblygiad ar gyfer arweinwyr y dyfodol.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.