Effaith cyrff ymgysylltu â pholisïau prifysgolion y DU

Dros y degawd diwethaf, mae llu o gyrff wedi dod i'r amlwg mewn prifysgolion yn y DU, a thu hwnt, sy'n ceisio brocera tystiolaeth a gynhyrchwyd gan eu sefydliad, a’i chyflwyno i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae'r ffenomen hon yn gysylltiedig â'r sylw ar effaith ymchwil (er enghraifft y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn y DU) a phwyslais prifysgolion ar y genhadaeth ddinesig a gwerth cyhoeddus ymchwil.

Cam cyntaf y prosiect hwn oedd cynnal arolwg o’r cyrff sy’n ymgysylltu â pholisïau mewn prifysgolion yn y DU, gan restru a chategoreiddio’r 46 o gyrff ymgysylltu â pholisïau a oedd yn bodoli ar y pryd. Ategwyd hyn drwy ddogfennu'r hyn a ddywedodd staff o'r cyrff hyn am sut roedden nhw’n dod yn fwyfwy amlwg, sut maen nhw'n gweithio, a sut maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bolisïau ac arferion.

Mae'r ymchwil yn nodi pedwar math o gorff sy’n ymgysylltu â pholisïau prifysgol - y swyddfa gymorth sy’n edrych ar effaith polisïau, y broceriaid gwybodaeth, y cynhyrchwyr tystiolaeth o bolisïau, a'r adeiladwyr perthnasoedd a arweinir gan alw - yn ogystal â'r gwahanol strategaethau a'r offer y maen nhw’n eu defnyddio i roi tystiolaeth ar waith mewn polisïau. Rydym yn canfod bod y gwahaniaethau rhwng y mathau o gyrff sy’n ymgysylltu â pholisïau mewn prifysgolion yn adlewyrchu'r gwahanol ddehongliadau o'r hyn y mae ymgysylltu â pholisïau a’u heffaith yn ei olygu, yn ogystal â gwahanol gyfleoedd, adnoddau a galluoedd i ymgysylltu â pholisïau. Fodd bynnag, mae pob un o’r rhain yn ailedrych ar ba rôl y gallai prifysgolion ei chwarae wrth lywio penderfyniadau ynghylch polisïau a gwella canlyniadau cymdeithasol.

PAPURAU:

Durrant, H. a MacKillop, E. M. (2022). University policy engagement bodies in the UK and the variable meanings of and approaches to impact, Research Evaluation, 31(3): 372-384. https://doi.org/10.1093/reseval/rvac015

Mae'r ymchwil hon yn esbonio dyfodiad ac amrywiaeth cyrff sy’n ymgysylltu â pholisïau a sefydlwyd gyda phrifysgolion y DU i gyd-fynd â’r newid yn y berthynas rhwng ymchwil a llunio polisïau. Rydym yn canfod, er bod rhai yn gweithio'n fewnol i ddylanwadu ar allu ymchwil i ymgysylltu â pholisïau, mae eraill yn ceisio meithrin rhwydweithiau allanol i gasglu gwybodaeth ar alw am dystiolaeth, neu ganolbwyntio ar berthnasoedd dyfnach a dylanwadu ar bennu agendâu.

I gyd-fynd â'r papur, fe wnaethom gyhoeddi blog Effaith LSE - Surveying the landscape of UK University policy engagement – What are we doing differently and why? - sy'n crynhoi'r ymchwil ac, yn sgîl y buddsoddiad ychwanegol gan arianwyr mewn ymgysylltu â pholisïau mewn prifysgolion, mae’n pwysleisio'r angen am well dealltwriaeth o effaith y cyrff hyn ar bolisïau.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.