Mae’n gred gyffredinol bod defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau yn arwain at ganlyniadau gwell. Ond, mae sawl her yn wynebu ymchwilwyr a llunwyr polisïau wrth greu polisïau ar sail tystiolaeth (EBPM). Mae rhai wedi galw am gynnal ymchwil sydd wedi ei ddylunio’n well ac wedi’i osod mewn cyd-destun er mwyn ymateb i'r prinder ymchwil perthnasol sydd ar gael i lunwyr polisïau; dylai’r ymchwil hwnnw ystyried gallu a chymhelliant llunwyr polisïau i roi tystiolaeth ar waith wrth lunio polisïau. Wrth ymateb i’r heriau hyn, mae cryn sylw wedi ei roi i waith a chyfraniad sefydliadau broceru gwybodaeth a chyfryngwyr eraill, fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy’n perthyn rywle rhwng ymchwil a pholisi.
Pwrpas y prosiect ymchwil hwn yw egluro sut y mae sefydliadau broceru gwybodaeth yn rhoi llais i arbenigwyr academaidd yn y broses o lunio polisïau, ac i ddod i ddeall beth yw profiad arbenigwyr academaidd o weithio gyda sefydliadau broceru gwybodaeth, fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, er mwyn gyrru gwybodaeth a chydweithio â llunwyr polisïau. Rydym ni’n awyddus i ddeall beth sy’n denu arbenigwyr academaidd at faes polisi, a beth yw eu profiadau nhw o weithio â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rydym ni eisiau clywed faint o ddylanwad y maen nhw’n credu y mae gweithgarwch o’r math hwn yn ei gael ar lunwyr polisïau lleol a chenedlaethol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, heb anghofio’r effaith y mae’r gwaith hwn yn ei chael ar eu cwestiynau ymchwil a’u hymarfer academaidd. I wneud hyn rydym yn cynnal arolwg byr a chyfweliadau lled-strwythuredig, ac rydym yn gwahodd yr holl arbenigwyr academaidd sydd wedi gweithio â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ers 2017 i gymryd rhan. Byddwn ni’n defnyddio ein canfyddiadau i gyfrannu at lenyddiaeth academaidd a fydd yn trafod y cysylltiad rhwng y byd academaidd a maes polisi, ac i lywio’r ffordd y mae’r ganolfan yn gweithio gydag arbenigwyr academaidd i ymateb i anghenion Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.