Ffactorau llwyddiant ar gyfer contractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau

Ym mis Mawrth 2025, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Bysiau i Gymru i roi mwy o reolaeth i’r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau, gyda’r nod o greu rhwydwaith bysiau cwbl integredig, carbon isel, sy’n canolbwyntio ar deithwyr yn rhan o’i gweledigaeth ehangach Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth yn gofyn am fasnachfreinio bysiau ledled Cymru, gan ddisodli’r system bresennol sydd wedi’i dadreoleiddio gyda model ar sail masnachfraint wedi’i dendro’n gystadleuol, a hynny i wella’r rhwydwaith bysiau ac annog defnydd ehangach o wasanaethau bysiau. Bydd gweithredwyr masnachfreintiau yn derbyn ffi i gynnal gwasanaethau bysiau a bydd Trafnidiaeth Cymru yn derbyn refeniw am werthu ticedi a derbyn unrhyw risg o golled mewn refeniw.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru, i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru roi tystiolaeth ar ffactorau llwyddiant allweddol wrth gontractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau. Nod ein hymchwil yw ateb dau gwestiwn cyffredinol:

1. Mewn masnachfreinio gwasanaethau bysiau, pa arferion neu nodweddion contractio a dyfarnu sy’n addo cyflawni gwelliant mewn ansawdd a chanlyniadau polisi dymunol wrth sicrhau gwerth am arian?

2. Sut y gall contractio, gan gynnwys cymhellion, helpu i ysgogi’r canlynol: newid moddol drwy gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau; Sero Net 2050; integreiddio trafnidiaeth; a lleihau tlodi trafnidiaeth?

Bydd yr ymchwil yn llywio datblygiad is-ddeddfwriaeth y Bil Bysiau sydd ar y gweill, a gwaith parhaus Trafnidiaeth Cymru i roi masnachfreinio bysiau ar waith. Er mwyn cynnig dealltwriaeth angenrheidiol a dod ag ystod o arbenigedd ar draws y byd ynghyd, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau ‘cyflwyno tystiolaeth’ fydd yn para 90 munud yr un, a hynny rhwng mis Mawrth a mis Mai 2025. Bydd y sesiynau’n rhoi cipolwg manwl i Lywodraeth Cymru a swyddogion Trafnidiaeth Cymru ar y canlynol:

  • Astudiaethau achos sy’n seiliedig ar arfer: bydd arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes trafnidiaeth yn rhannu eu hymagweddau at fasnachfreinio bysiau ac yn nodi gwersi allweddol a ddysgwyd ynghylch contractio, dyfarnu a chymhellion.
  • Heriau o ran polisi: bydd arbenigwyr yn cyflwyno’r syniadau diweddaraf ar sut y gall contractio a dyfarnu effeithio ar feysydd polisi pwysig fel trydaneiddio a sero net, y cynnydd yn y galw am fysiau, lliniaru tlodi trafnidiaeth, a gwella symudedd ac integreiddio mewn ardaloedd gwledig.

Bydd y canfyddiadau yn gyfres hon o sesiynau cyflwyno tystiolaeth yn cael eu datblygu’n adroddiad sy’n cyfuno’r gwersi allweddol a ddysgwyd mewn ymateb i’n cwestiynau ymchwil er mwyn llywio dull Cymreig o fasnachfreinio gwasanaethau bysiau. Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi crynodebau o’r astudiaethau achos a drafodwyd ac erthyglau herio polisi a gyfrannwyd gan arbenigwyr. Ein nod yw sicrhau bod yr allbynnau hyn ar gael i’r cyhoedd yn ystod haf 2025.

Os hoffech chi rhagor o wybodaeth am y prosiect yma, neu unrhyw un o’n prosiectau newydd, cysylltwch â ni drwy e-bostio info@wcpp.org.uk.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.