Yng Nghymru, mae llywodraeth leol dan straen cynyddol wrth i’r galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol gynyddu tra bod gwasanaethau eraill yn wynebu toriadau oherwydd setliadau ariannol anodd.
Lawrlwythwch y papur a CHLICIWCH YMA neu sganiwch isod i rhoi eich barn am ganfyddiadau y gweithgor:

Cydnabuwyd ers tro y gallai fod angen newid neu addasu ffurf bresennol llywodraeth leol mewn ymateb i’r heriau presennol; ac yng Nghymru, awgrymodd Adolygiad Williams newidiadau mewn ymarfer a allai gefnogi llywodraeth leol i ymdrin â heriau heddiw a heriau yn y dyfodol. Mae’r senarios demograffig a’r cyd-destun cyllidol sy’n gwaethygu ers yr adolygiad hwnnw yn gwneud yr angen am newid yn bwysicach fyth.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), wedi galw gweithgor annibynnol ynghyd i sicrhau llywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr yng Nghymru, ynghyd ag arbenigwyr annibynnol, dan gadeiryddiaeth cyn-gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yr Athro Steve Martin.
Bydd y grŵp yn ystyried yr heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, a bydd yn datblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, wedi’i chefnogi gan set o gynigion i gyflawni’r weledigaeth hon, a allai gael ei rhoi ar waith yn dilyn etholiad y Senedd yn 2026.
Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n cefnogi’r grŵp drwy gynnig tystiolaeth annibynnol sy’n mynd i’r afael â’r meysydd y bydd y grŵp yn eu trafod: diben a swyddogaeth llywodraeth leol; cyfrifoldeb a gwerthuso perfformiad; arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol; ariannu llywodraeth leol; strwythurau rhanbarthol a’r berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru; a chynigion ar gyfer diwygio, gan gynnwys yr agenda ar gyfer trawsnewid.
Mae disgwyl i waith y grŵp fod wedi’i orffen yn sylweddol erbyn diwedd 2025 ac i’r weledigaeth gyffredinol a’r argymhellion terfynol gael eu cyhoeddi cyn mis Mai 2026.
Lawrlwythwch papur safbwynt y Gweithgor a rhowch eich barn trwy’r arolwg byr.