Ymunodd Oliver Bozickovic â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ym mis Medi 2025 yn fyfyriwr ar flwyddyn o leoliad proffesiynol yn rhan o’i radd israddedig BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod ei astudiaethau, mae wedi cwblhau modiwlau gan gynnwys ‘Dadansoddi Polisi Cymdeithasol’, ‘Ymchwil Gymdeithasol Ddigidol’, ‘Dulliau Ymchwil Gymdeithasol’ a ‘Chysylltiadau rhwng y Rhywiau a’r Gymdeithas’.
Yn sgil ei interniaeth yn WCPP, nod Oliver yw deall rhagor am bolisïau Cymru a chael profiad ymarferol o brosesau a methodoleg ymchwil gymdeithasol.