Dechreuodd Sophia Walters gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2025 ar brofiad proffesiynol yn rhan o’i gradd BSc mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod ei hastudiaethau, datblygodd ddealltwriaeth o bolisïau ac arferion drwy ei modiwl ar fethodoleg, ‘Gwerthuso Polisi Cymdeithasol’, ynghyd â’i diddordeb mewn newid cymdeithasol a lleihau anghydraddoldebau.
Drwy gydol ei lleoliad, mae Sophia yn gobeithio deall rhagor am gyd-destun byd polisi yng Nghymru a chael profiad ymarferol o brosesau a methodoleg ymchwil gymdeithasol.