Fel rhan o’n prosiect a ariennir gan ESCR sy’n pwyso a mesur effaith Rhwydwaith What Works y DU, mae Eleanor Mackillop o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhannu pedair gwers am gynllunio, cynhyrchu a gwerthuso effaith a allai fod o fudd i bob sefydliad sy’n trosi tystiolaeth yn bolisi.
Mae’r rhwydwaith yn dwyn ynghyd ganolfannau What Works sy’n cynhyrchu, yn cyfuno ac yn trosglwyddo tystiolaeth i gynulleidfaoedd mewn meysydd polisi fel digartrefedd (y Ganolfan Effaith Digartrefedd), gofal iechyd (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICCE)), a chyrhaeddiad addysgol (y Sefydliad Gwaddol Addysgol).
Mae’r Canolfannau What Works yn cynhyrchu cyfuniadau tystiolaeth, pecynnau cymorth sy’n cymharu effeithiolrwydd gwahanol fathau o ymyriadau, adolygiadau o dystiolaeth, cymorth i weithredu ac yn cynnal digwyddiadau sy’n dwyn ynghyd y bobl allweddol mewn maes penodol. Mae eu cynulleidfaoedd yn cynnwys y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yn y llywodraeth ganol, mewn llywodraethau datganoledig, llywodraethau rhanbarthol a lleol, yn ogystal ag ymarferwyr fel athrawon, swyddogion heddlu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ceir nifer o achosion lle mae’r gwaith hwn yn croesi ar draws y cynulleidfaoedd a’r allbynnau y mae cyrff eraill sy’n ymgysylltu â pholisi yn ceisio dylanwadu arnynt. Yma rydym yn crynhoi pedair gwers sydd o ddiddordeb arbennig yn ein barn ni.
Gwers 1: Mae’n anodd cael effaith ym maes brocera gwybodaeth
Gwnaed cryn ymdrechion i geisio cysyniadoli ac arddangos yn empirig effaith ymchwil ar gymdeithas, gyda llawer o astudiaethau’n codi’r cwestiwn pa mor bell yn ôl y gall rhywun briodoli newidiadau mewn cymdeithas i brosiectau ymchwil penodol. Mae’r dasg yn anos fyth os am ddangos effaith y broses o frocera gwybodaeth sy’n digwydd ar y ffin sy’n cysylltu ymchwil, tystiolaeth, cynhyrchwyr gwybodaeth ac allbynnau â rhanddeiliaid polisi ac ymarfer.
Mae’r effaith yn wahanol ac yn mynd y tu hwnt i ymgysylltu. Dechreuodd llawer o Ganolfannau What Works ganolbwyntio ar ymgysylltu gan ei fod yn aml yn llwybr tuag at ddatblygu effaith. Maent wedi datblygu Damcaniaethau Newid a modelau rhesymeg i’w helpu i gynllunio ar gyfer yr effaith, gan ofyn iddynt eu hunain pa effaith yr hoffent ei chael a gan weithio’n ôl i feddwl am eu gweithgareddau a’u perthnasoedd. Mae effaith Canolfannau What Works yn canolbwyntio cymaint ar sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chynnwys mewn ymarfer a dogfennau polisi, ag a wna ar newid ymddygiad ac agweddau at fater.
Gwers 2: Mae meithrin perthnasoedd dwfn a dibynadwy yn cymryd amser
Er mwyn deall yr effaith yn y Rhwydwaith, fe wnaethom gynnal dros 40 o gyfweliadau gyda Chanolfannau What Works a’u rhanddeiliaid. Daeth yn amlwg o bob cyfweliad fod meithrin perthnasoedd yn cael ei ystyried fel un o’r llwybrau pwysig at gael effaith. Esboniodd un rhanddeiliad fod cysylltiad annatod i’w gael rhwng effaith a meithrin perthynas:
“Mae’n fater o fod yno. Mae’n fater o fod yn weladwy. Mae’n fater o fod yn y mannau lle mae pobl yn siarad am y mathau hyn o benderfyniadau er mwyn llwyddo. Nid cyfeiriadau sy’n bwysig. Mae cael eich crybwyll yn y Senedd yn braf, ond mae’n llawer mwy perthynol na hynny.”
Soniodd rhanddeiliaid eraill am bwysigrwydd gweithio’n agos â Chanolfannau What Works ac am bwysigrwydd perthynas gyfartal. Mae llawer o Ganolfannau What Works bellach wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid lleol fel llywodraeth leol. Er enghraifft, mae’r Ganolfan Heneiddio’n Well wedi creu partneriaethau gyda Manceinion Fwyaf, Leeds a Swydd Lincoln; mae hyn yn helpu i feithrin cysylltiadau cryf a dibynadwy lle caiff yr angen am dystiolaeth ei drafod yn rheolaidd a lle caiff allbynnau eu cynhyrchu ar y cyd i ymateb i’r angen hwnnw. Gan fod llefydd yn dod fwyfwy i’r amlwg fel ffocws pwysig ar gyfer effaith (e.e. Partneriaethau Polisi ac Arloesi Lleol, Cronfa Ddatblygu Research England), fe all y partneriaethau lleol dwfn hyn fod yn drywydd addawol at effaith. Mae rhai prifysgolion, fel Sefydliad Dinesig Nottingham a Sefydliad Heseltine yn Lerpwl, wedi bod yn gweithio yn y maes ‘lle’ hwn ers tro.
Fe wnaeth y Canolfannau What Works dynnu sylw at rai ffactorau sy’n allweddol ar gyfer meithrin perthynas lwyddiannus gyda’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau. Ymysg y ffactorau hyn yr oedd, rhoi lle i feddwl ac amser iddynt wir bwyso a mesur y dystiolaeth yn hytrach na dim ond ei darllen, a gweithio’n gynhyrchiol er mwyn esgor ar allbynnau y gellir eu defnyddio ar lawr gwlad.
Gwers 3: Mae mwy nag un ffordd o gynllunio ar gyfer yr effaith
Fe wnaethom drefnu digwyddiad ym mis Tachwedd 2024, gan ddwyn ynghyd y Canolfannau What Works i drafod sut maen nhw’n cynllunio, yn cynhyrchu ac yn mesur effaith. Fel rhan o’r digwyddiad hwn cafwyd siaradwyr o’r tu allan i’r Rhwydwaith er mwyn dangos y dulliau tebyg a’r dulliau gwahanol o ymdrin â’r mater hwn y gallai canolfannau ddysgu oddi wrthynt.
Does dim angen ailddyfeisio’r olwyn. Mae digonedd o fodelau parod i’w defnyddio ar gael yn y llenyddiaeth ac yn ehangach ar fframio a meddwl am eich effaith. Dyma ddolen i grynodeb o’r dull gweithredu a baratowyd gennym ar gyfer Canolfannau What Works. Gellir hefyd ychwanegu enghreifftiau o’r sesiwn Cyfnewid a Rhannu.
Gwers 4: Mae mwy nag un ffordd o werthuso ac olrhain effaith hefyd
Pan fyddwch chi’n meddwl eich bod wedi cael effaith, gall fod yn anodd dangos hynny. Mae hyn yn arbennig o wir am froceriaid gwybodaeth y mae eu gwaith yn aml yn digwydd y tu ôl i’r llenni ac yn aros ynghudd yn y ffin rhwng y byd academaidd a pholisi. Fel arfer, mae Canolfannau What Works yn gweithio i ddangos eu bod wedi gwneud cyfraniad sylweddol at yr effaith, ac fe allai pobl eraill sy’n gweithio yn y maes ymgysylltu â pholisi fod mewn sefyllfa debyg.
Mae Canolfannau What Works wedi creu systemau gwahanol i gofnodi eu heffaith, o systemau rheoli prosiectau fel Asana sy’n cysylltu tasgau prosiect â nodau cyffredinol, i ddefnyddio sianeli Slack i ganiatáu i unrhyw o’r sefydliad gofnodi enghreifftiau o effaith. Ceir yn aml gadwyni achosol hir rhwng ymchwil, tystiolaeth ac effaith derfynol, ac mae’r angen i gysylltu gwaith eich sefydliad â newid yn broses hir y mae angen ei gwerthuso’n ofalus.
Mae’r canolfannau wedi ceisio osgoi syrthio i’r ‘magl’ gwerthuso drwy fetrigau, a allai olygu aberthu’r ffocws ar newid systemau i ddibynnu ar fetrigau symlach (e.e., nifer y lawrlwythiadau) a’r effaith linol. Tynnodd y canolfannau What Works sylw at ba mor anodd yw mesur effaith gynnil, neu’r hyn y gellid cyfeirio ati fel effaith anffurfiol/gysyniadol, fel newid mewn agwedd ac ymddygiad. Mae defnyddio gweithdai mapio cyfranogol yn adnodd defnyddiol posibl i gofnodi fel grŵp yr effeithiau a geisir ac yna archwilio sut cyflawnwyd yr effaith.
Casgliad: Mae’n bwysig rhannu arferion da a dulliau o fesur effaith
Mae’r prosiect yn gyfle i ganolfannau What Works rannu enghreifftiau o arferion da a dulliau o gael effaith. Dywedodd y canolfannau What Works ei bod yn bwysig rhannu’r hyn maen nhw’n ei wneud gyda’i gilydd a gyda’r byd ehangach er mwyn i eraill gael eu hysbrydoli ac, mewn rhai achosion, osgoi’r un maglau. Mae hefyd yn bwysig i ganolfannau What Works ddysgu oddi wrth sefydliadau eraill fel cyrff ymgysylltu â pholisi prifysgolion a bydd ein prosiect yn ceisio meithrin cysylltiadau agosach rhwng y ddwy gymuned.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor am y prosiect neu mewn bod yn rhan o ddigwyddiad gyda chanolfannau What Works i’r dyfodol, cysylltwch â ni (info@wcpp.org.uk).
Cyhoeddwyd y blog i ddechrau gan UPEN