Rydym yn comisiynu’r gwaith o ddatblygu teclyn, adnodd neu broses i helpu gweithredwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol i gymryd camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth – camau sy’n cynnal neu’n cryfhau cyfleoedd cydweithio rhwng sawl sector ac sy’n gwella llesiant cymunedol.
Yng ngham nesaf ein gwaith ar Lesiant Cymunedol, ac fel rhan o’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP), rydym yn awyddus i gomisiynu partner i arwain y gwaith o brototeipio, profi, mireinio a chyflwyno’r teclyn/adnodd, gan adeiladu ar y gwaith ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n sail i’r tendr hwn. Rydym yn agored i geisiadau ar y cyd gan gydweithrediadau presennol, partneriaethau, cynigion consortiwm, a/neu fidiau sydd â’r potensial i esblygu i fod yn bartneriaeth strategol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector preifat.
Fel rhan o’r RCP, rydym yn bwriadu stiwardio’r broses hon a brocera cysylltiadau, ond ein nod yw comisiynu partner sydd â phersbectif newydd a sgiliau perthnasol – partner sy’n gallu gwneud yn fawr o effaith a hirhoedledd y prosiect (o ran perthnasedd a’r nifer sy’n manteisio ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu). Mae ymrwymiadau diweddar wedi ein helpu i ddatblygu egwyddorion allweddol ar gyfer sut hoffem gydweithio gyda’n partner:
- Defnyddio dull cydgynhyrchiol sy’n ysgogi arbenigedd seiliedig ar ymarfer ac yn meithrin cydberchnogaeth o’r allbwn terfynol.
- Mabwysiadu dull hyblyg er mwyn galluogi amrywiaeth eang o randdeiliaid gwasanaethau cyhoeddus Cymru i gyfrannu ar wahanol adegau drwy gydol y broses ddatblygu, o ystyried natur rwydweithiol yr RCP a’r amrywiol ddiddordebau yn y teclyn/adnodd hwn.
- Osgoi dyblygu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid, gan eu cynnwys drwy ‘feddwl yn uchel’.
Mae’r angen am y comisiwn hwn yn seiliedig ar ein hymchwil flaenorol gyda’r RCP ar rôl cydweithio rhwng sawl sector i wella llesiant cymunedol. Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at y ‘cynhwysion’ hanfodol ar gyfer cychwyn a chynnal prosesau cydweithio rhwng sawl sector, yn ogystal â chamau gweithredu a all feithrin y cynhwysion hynny.
Yng ngeiriau Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Rydym yn edrych ymlaen at ganfod a gweithio gyda phartner a fydd yn ein helpu i ddarparu adnodd ymarferol i alluogi sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol i gryfhau eu dulliau cydweithio drwy ddefnyddio tystiolaeth, gwybodaeth ac offer a chymorth perthnasol.”
“Un o ganlyniadau allweddol ein gwaith ymchwil diweddar ar gydweithio rhwng sawl sector i wella llesiant cymunedol oedd Fframwaith Gweithredu. Ond er yn ddefnyddiol, nid yw’n cefnogi darpar ddefnyddwyr i asesu pa gamau sydd fwyaf addas ar gyfer eu cyd-destun a’u cyfleoedd cydweithio nhw. Drwy ymgysylltu’n ddyfnach, gwelwyd nad gwneud yr ymchwil yn fwy diddorol a hygyrch yw’r ffordd o fynd i’r afael â hyn – mae angen teclyn/adnodd sy’n pontio’r bwlch rhwng tystiolaeth a gweithredu.”
CLICIWCH YMA i wneud cais am y gwaith yma.