Y thema ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw cymuned – dod at ein gilydd ar gyfer iechyd meddwl.
Fel rhan o waith Rwydwaith Deall Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), fe drefnodd CPCC ac Achub y Plant Cymru fod pobl ifanc o ddwy ysgol yn Ne Cymru yn dod ynghyd mewn digwyddiad arbennig.
Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth y bobl ifanc rannu eu hymchwil gyda’r rhai sy’n llunio polisïau, ymgynghorwyr, ac arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd, gan dynnu sylw at yr hyn sy’n arwain at dlodi a stigma, ac effeithiau’r rhain ar eu cenhedlaeth nhw. Fe wnaeth y grŵp hefyd edrych yn fanylach ar wahanol ddatrysiadau posibl a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc a’u cymunedau.
Cyfeiriodd y bobl ifanc at bedwar prif faes maen nhw’n meddwl sydd angen mynd i’r afael â nhw – mae’r themâu hyn yn cael eu trafod mewn adroddiad y maent yn bwriadu ei gyhoeddi. Y themâu yw:
- Arian a chymorth, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl
- Mynediad at gyfleoedd gan gynnwys addysg a chwarae
- Perthnasoedd iach a phositif
- Llais a pharch
Rhannodd y bobl ifanc deimladau cryfion am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar lesiant meddyliol a chorfforol eu cyfoedion fel: “Mae stigma tlodi yn dweud bod pobl mewn tlodi yn ddrwg. Tlodi sy’n ddrwg, nid pobl mewn tlodi”.

Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd WCPP, sy’n arwain gwaith y ganolfan ar stigma tlodi: “Mae cydweithio ag Achub y Plant Cymru wedi bod yn bleser o'r cychwyn cyntaf.
“Roedd y bobl ifanc wedi paratoi’n dda, ac fe wnaethant roi cyflwyniad dylanwadol dros ben i’r rhai sy’n llunio polisïau ac i ymarferwyr allweddol.
“Dywedodd un o’r merched rhywbeth wnaeth aros yn fy nghof sef: 'Mae stigma tlodi yn dweud bod pobl mewn tlodi yn ddrwg. Tlodi sy’n ddrwg, nid pobl mewn tlodi.'
“Byddwn ni’n defnyddio'r hyn rydym ni wedi ei ddysgu yn y digwyddiad Grym Llais yn ein gwaith ar stigma tlodi er mwyn rhoi gwybod i ymarferwyr a llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol ac ymarferwr am effeithiau stigma ar bobl ifanc ac er mwyn datblygu datrysiadau i’r sefyllfa ar lefel leol a chenedlaethol.”
Ychwanegodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Mae’r bartneriaeth gyda’r CPCC wedi galluogi pobl ifanc sy’n rhan o’n prosiect Grym Llais i sgwrsio’n uniongyrchol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am y newidiadau yr hoffent eu gweld yn digwydd er mwyn mynd i’r afael â stigma tlodi yng Nghymru.
“Roedd hi’n braf gweld oedolion a phobl ifanc yn rhannu gofod ac yn meddwl am ddatrysiadau i fynd i'r afael â rhai o’r materion sy’n effeithio fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Maen nhw wedi dweud wrthym ni mor bwysig yw cael llais a chyfle i siarad am bwysigrwydd plentyndod gyda’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol a chenedlaethol. Roedd cael rhywle diogel i chwarae a chwrdd yn lleol yn bwysig iawn iddynt. Bydd hi’n braf gweld sut bydd y prosiect yn datblygu.”